Mae ffigurau newydd, a ryddhawyd gan y RSPCA heddiw, yn dangos eu bod nhw wedi ail-gartrefu 239 o gŵn yn 2020.

Daw hyn er gwaethaf pandemig y coronafeirws a’r cyfyngiadau symud.

Yn y Deyrnas Gyfunol, cafodd 4,877 o gŵn eu hail-gartrefu yn 2020.

Lansiodd yr elusen system ailgartrefu rithiol er mwyn parhau i ailgartrefu anifeiliaid gan gadw at gyfyngiadau Llywodraeth Cymru ar ymbellhau cymdeithasol a theithio.

Cafodd pobol ei hannog i wneud cais am anifeiliaid anwes ar-lein.

Yna, roedd staff yn cynnal cyfweliadau dros alwadau fideo a sesiynau cyfarfod a chyfarch ar-lein er mwyn ffeindio’r cartrefi iawn i’r cŵn.

Dywedodd Dr Samantha Grimes, arbenigwr lles cŵn gyda’r RSPCA fod “y rhan fwyaf o’n cŵn” wedi cael cartref yn gyflym.

“Lefel ddigynsail o ddiddordeb”

“Ar ddechrau’r cyfnod clo roeddem yn pryderu pa mor anodd fyddai ailgartrefu anifeiliaid, yn enwedig gan fod yn rhaid i ni oedi pob ailgartrefu am sawl wythnos nes ein bod yn gallu llunio model ailgartrefu newydd a oedd yn glynu wrth ganllawiau Llywodraeth Cymru,” meddai.

“Ar ôl i ni gael cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru i ail-lansio ailgartrefu, cawsom ein syfrdanu gan y lefelau diddordeb a gawsom yn ein hanifeiliaid; enwedig ein cŵn.

“Gwelsom lefel ddigynsail o ddiddordeb mewn ailgartrefu cŵn o deuluoedd a oedd yn treulio mwy o amser gartref ac eisiau cwmni ffrind blewog.

“Cawsom 68% yn fwy o ymweliadau ag adran Find A Pet ar ein gwefan rhwng 23 Mawrth – diwrnod cyntaf y cyfyngiadau symud – a 31 Rhagfyr o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

“Derbyniodd llawer o’n canolfannau gannoedd o geisiadau am gŵn unigol ac roedd rhai cŵn yn cael eu hailgartrefu cyn iddynt gael eu hysbysebu ar-lein hyd yn oed.”

“Cartrefi ar gyfer yr holl gŵn”

Ychwanegodd Dr Samantha Gaines: “Er bod y rhan fwyaf o’n hanifeiliaid wedi’u hailgartrefu’n gyflym, mae rhai sydd, yn anffodus, wedi cael eu hanwybyddu dro ar ôl tro oherwydd eu lliw, eu brîd, eu hoedran neu eu cefndir.

“Rydym am geisio dod o hyd i gartrefi ar gyfer yr holl gŵn gwych sy’n aros gyda ni.”