Ni fydd Heddlu’r Metropolitan yn cymryd “camau pellach” yn erbyn Tywysog Andrew yn dilyn honiadau gan Virginia Giuffre ei fod wedi’i cham-drin yn rhywiol.
Mae Virginia Giuffre yn erlyn Dug Caerefrog yn yr Unol Daleithiau am ymosod arni’n rhywiol pan oedd hi yn ei harddegau, ac mae Tywysog Andrew wedi gwadu’r cyhuddiadau dro ar ôl tro.
Ym mis Awst, fe wnaeth Heddlu’r Metropolitan ddweud y bydden nhw’n adolygu eu penderfyniad i beidio ymchwilio i gyhuddiadau yn erbyn Tywysog Andrew sy’n gysylltiedig â Jeffrey Epstein.
Mae Virginia Giuffre, 38, yn dweud ei bod Tywysog Andrew wedi ymosod arni’n rhywiol mewn tri lle – yn Llundain, Efrog Newydd ac ar ynys breifat Jeffrey Epstein yn y Caribî.
Mae Virginia Giuffre yn un o ddioddefwyr honedig Jeffrey Epstein, ac mae hi wedi dweud ei bod hi wedi cael ei recriwtio gan Jeffrey Epstein a’i gorfodi i gael rhyw â’i ffrindiau, gan gynnwys Tywysog Andrew, pan oedd hi dan oed.
“Dim camau pellach”
Roedd Heddlu’r Metropolitan wedi gwrthod cynnal ymchwiliad i’r cyhuddiadau yn erbyn Jeffrey Epstein, ond fe wnaeth Comisiynydd yr Heddlu, Cressida Dick, gyhoeddi ym mis Awst y byddai’n adolygu’r penderfyniad.
“Fel rhan o’r weithdrefn, fe wnaeth swyddogion Heddlu’r Metropolitan adolygu dogfen a gafodd ei rhyddhau yn Awst 2021 fel rhan o weithrediadau sifil yr Unol Daleithiau,” meddai Heddlu’r Metropolitan.
“Mae’r adolygiad wedi dod i ben, ac nid ydyn ni’n cymryd unrhyw gamau pellach.”
Dywedodd y llu y bydden nhw’n parhau i drafod gydag asiantaethau eraill sy’n arwain yr ymchwiliad i faterion yn ymwneud â Jeffrey Epstein.
Cafodd Jeffrey Epstein ei ddarganfod yn farw yn 2019 wrth ddisgwyl am ei achos llys ar gyhuddiadau o fasnachu rhyw.
Yn ogystal, mae Heddlu’r Metropolitan wedi cwblhau adolygiad i honiadau a gafodd eu hadrodd gan Channel 4 News bod Ghislaine Maxwell, cyn-gariad Jeffrey Epstein, wedi cymryd rhan mewn masnachu rhyw, paratoi menywod a merched at bwrpas rhyw, a’u cam-drin.
Dywedodd y llu eu bod nhw wedi “adolygu gwybodaeth a gafodd ei basio inni gan un o sefydliadau’r cyfryngau ym mis Mehefin” ac wedi penderfynu “na fydd camau pellach yn cael eu cymryd”.