Mae ymgyrch newydd wedi’i lansio i leihau troseddau yn erbyn merched yn Wrecsam, a gwneud y dref yn lle mwy diogel.

Er mwyn ceisio gostwng nifer y troseddau sy’n ymwneud â thrais yn erbyn menywod o 10%, mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, wedi sicrhau cyllid ychwanegol o £339,000.

Bydd menter Strydoedd Mwy Diogel yn cynnwys gwella teledu cylch cyfyng a chreu lleoedd mwy diogel i ferched, yn ogystal â darparu hyfforddiant ac addysg.

Wrth gydweithio â Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a phartneriaid eraill, mae’r cynllun yn bwriadu targedu troseddau fel treisio a throseddau rhywiol eraill, stelcio, aflonyddu a throseddau sy’n ymwneud â thrais.

Y cynllun

Mae’r cynllun wedi’i lunio er mwyn mynd i’r afael â phryderon gan fenywod, a ddaeth i’r amlwg yn sgil arolwg gan Heddlu Gogledd Cymru.

Daeth yr arolwg i’r casgliad nad oedd merched yn teimlo’n ddiogel yn y dref gyda’r nos, mewn bariau, clybiau nos na thacsis.

Roedd chwibanu, gweiddi anweddus a sylwadau rhywiol ymysg y pryderon eraill.

Dywedodd llawer nad oedden nhw wedi rhoi gwybod i’r heddlu am y digwyddiadau oherwydd nad oedden nhw’n credu y gellid gwneud unrhyw beth yn ei gylch gan ei fod “bron â dod yn ymddygiad derbyniol”.

Fel rhan o’r cynllun, bydd hyfforddiant yn cael ei roi i weithwyr gyda’r nos yn Wrecsam atal trais rhywiol fel rhan o’r Ymgyrch Noson Allan Dda.

Bydd hyfforddiant ychwanegol yn cael ei roi i Fugeiliaid Stryd Wrecsam, a gwirfoddolwyr sy’n gofalu am bobol fregus yn ystod y nos yno, gan ganolbwyntio ar iechyd meddwl, cymorth cyntaf, atal hunanladdiad a rhoi cyngor ar yfed alcohol.

Yn ogystal, bydd Eglwys Stryd Gobaith yn creu mwy o fannau diogel a fydd hefyd yn gallu cyfeirio pobol agored i niwed at wasanaethau cymorth.

Mae’r eglwys hefyd eisiau hyfforddi aelodau i ddod yn Fugeiliaid Stryd, a bydd canolfan lesiant Hafan y Dre ar agor nos Wener a dydd Sadwrn.

Fe fydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i dalu am ffilm addysgol fer sy’n canolbwyntio ar gydsyniad (consent) a chanlyniadau troseddau rhywiol.

‘Dynion â’r cyfrifoldeb’

Dywedodd Andy Dunbobbin ei fod yn “falch iawn” ei fod wedi gallu sicrhau’r cyllid hwn.

“Cadw pobl yn ddiogel yw’r brif flaenoriaeth ar gyfer plismona a diogelu menywod a merched sy’n agored i niwed yn rhan allweddol o fy Nghynllun Heddlu a Throsedd sy’n amlinellu’r cynllun cyffredinol ar gyfer plismona gogledd Cymru.

“Ar yr un pryd mae’n hanfodol ein bod yn mynd i’r afael ag agweddau ac ymddygiadau misogynistaidd mewn cymdeithas.

“Mae troseddau yn erbyn merched yn cael eu cyflawni gan ddynion a dynion yn y pen draw sydd â’r cyfrifoldeb i newid.

“Dyna pam, ochr yn ochr â’r mesurau pwysig eraill rydyn ni’n eu cymryd, mae gan hyfforddiant ac addysg ran mor hanfodol i’w chwarae.

“Nod yr ymgyrch benodol hon ar gyfer Strydoedd Mwy Diogel yn Wrecsam yw lleihau nifer y troseddau yn erbyn merched 10 y cant – a byddai hynny’n ddechrau rhagorol.”