Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg wedi condemnio protestwyr gwrth-frechlyn ar ôl i griw godi ofn ar bobol tu allan i ganolfannau brechu.

Er bod gan bobol hawl i brotestio, “does dim gan bobol hawl i ymosod ar bobol” ac “ymddwyn mewn ffordd sy’n ymyrryd â nhw”, meddai Jeremy Miles.

Daw ei sylwadau ar BBC Radio Cymru wedi i ferch 15 oed a’i mam ddweud eu bod nhw wedi cael eu hamgylchynu gan brotestwyr ym Mae Caerdydd.

Datblygodd Grace Baker-Earle Myalgic Encephalopathy (ME) ar ôl cael Covid llynedd ac mae hi’n defnyddio cadair olwyn, ac aeth am ei brechlyn ddydd Sadwrn.

Cafodd dyn 61 oed o Gasnewydd ei arestio ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud â hiliaeth yn y brotest.

“Annerbyniol”

“Mae gan bobol hawl i’w barn, mae gan bobol hawl i brotestio, ond does dim gan bobol hawl i ymosod ar bobol ac i geisio ymddwyn mewn ffordd sy’n ymyrryd â nhw,” meddai Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg.

“Mae hynny’n gwbl annerbyniol.

“Mae’n bwysig bod pobol yn cael trafodaeth am y pethau yma, ond mae’n bwysig iawn bod hynny’n digwydd mewn ffordd sydd ddim yn ymyrryd â hawliau pobol eraill i gael eu brechu.”

Mae Mark Drakeford eisoes wedi condemnio ymddygiad y protestwyr, gan ddweud nad oes gan bobol hawl i roi eu barn a phrotestio mewn “ffordd sy’n codi ofn ar eraill”.

“Mae’n ffordd o aflonyddu – nid dyna beth mae’r person sy’n protestio yn ei feddwl, ond mae’n cael ei effaith honno ar yr unigolyn,” meddai wrth raglen Sunday Supplement.

“Yn amlwg yn yr achos yma roedden nhw wedi codi ofn ar y fenyw ifanc.”

Dywedodd y Prif Weinidog bod yn rhaid i’r heddlu “fod yn barod i weithredu” mewn digwyddiadau fel hyn.

Cafodd Angela Baker-Earle, mam Grace Baker-Earle, ei chyhuddo gan brotestwyr o ddefnyddio ei merch fel “lab rat”.

Fe wnaeth tua phymtheg o brotestwyr amgylchynu eu car, meddai Angela Baker-Earle, sy’n dod o ardal Y Bont-faen.