Mae gyrrwr beic 46 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghorris ger Machynlleth.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad ar yr A487 ychydig cyn 12:20yh ddoe (10 Hydref), ar ôl i ddau feic modur daro i mewn i’w gilydd wrth ymyl safle’r Ganolfan Grefft yng Nghorris Uchaf.

Daeth ymateb brys gan yr heddlu, y Gwasanaeth Ambiwlans, ac Ambiwlans Awyr Cymru, ond er gwaethaf ymdrechion swyddogion, bu farw’r gyrrwr yn y fan a’r lle.

Does dim mwy o wybodaeth wedi ei gyhoeddi am y dyn eto, ond mae ei deulu’n cael eu cefnogi gan swyddogion ar hyn o bryd.

Roedd yn rhaid cau’r A487 am rai oriau er mwyn i wasanaethau brys ddelio gyda’r ddamwain, ond roedd y ffordd wedi ailagor erbyn 18:20 neithiwr.

Datganiad

“Rwy’n cynnig fy nghydymdeimladau dwysaf â theulu’r beiciwr modur, sy’n cael eu cefnogi gan swyddog arbennig ar yr adeg anodd hon,” meddai Sarjant Raymond Williams o’r Uned Plismona Ffyrdd.

“Ar hyn o bryd, rydyn ni’n ymchwilio i’r digwyddiad hwn fel gwrthdrawiad ffordd angheuol ac yn gofyn i unrhyw dystion, sydd heb siarad eisoes, gysylltu â’r heddlu gydag unrhyw wybodaeth neu luniau dash cam.

“Hoffwn ddiolch i ddefnyddwyr y ffordd am eu hamynedd a’u dealltwriaeth tra bu’r ffordd ar gau.”

Mae unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad yn cael eu hannog i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru, naill ai ar-lein neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod Z149033.