Cafodd cannoedd o honiadau o gamymddwyn rhywiol eu gwneud yn erbyn swyddogion heddlu dros wledydd Prydain dros bum mlynedd.
Mae ystadegau o 31 llu heddlu yn dangos bod o leiaf 750 o gyhuddiadau wedi cael eu gwneud yn erbyn swyddogion rhwng 2016 a 2020 yng Nghymru, Lloger a’r Alban, yn ôl data sydd wedi’i gasglu gan RADAR ar ran gwasanaeth newyddion PA.
Gallai’r cyhuddiadau gyfeirio at honiadau hanesyddol, ac mae’r rhan fwyaf o honiadau’n rhai yn erbyn dynion, meddai’r data.
Nid oedd yr ymatebion a gafwyd dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn dangos a oedd y swyddog ar ddyletswydd pan ddigwyddodd y digwyddiadau honedig.
Arweiniodd 34 o’r cyhuddiadau at swyddog yn cael ei ddiswyddo, rhestrwyd saith fel naill ai wedi ymddeol neu gael ei diswyddo, a byddai o leiaf chwech arall wedi cael eu diswyddo pe na baen nhw wedi ymddiswyddo gyntaf.
Dangosa’r ystadegau bod dau honiad o gamymddwyn difrifol wedi’u gwneud yn erbyn swyddogion Heddlu Gwent rhwng 2016 a 2020, 13 honiad yn erbyn swyddogion Heddlu Gogledd Cymru (12 yn erbyn dynion, ac un yn erbyn menyw), a 25 honiad yn ymwneud â 26 swyddog yn Heddlu De Cymru.
Roedd 20 o’r honiadau yn Heddlu De Cymru yn erbyn dynion, un yn erbyn menyw, a doedd dim gwybodaeth am ryw y pump arall.
Ni chafwyd ymateb gan Heddlu Dyfed-Powys.
“Newid radical”
Daw hyn wedi i’r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, gyhoeddi ymchwiliad annibynnol i edrych ar y “methiannau systemig” a wnaeth ganiatáu i Wayne Couzens, llofrudd Sarah Everard, i gael ei gyflogi fel heddwas.
Bydd ymchwiliad arall i adolygu safonau a diwylliant Heddlu’r Metropolitan.
Yn ôl Cynghrair End Violence Against Women, sy’n cynnwys grwpiau fel Rape Crisis, Refuge a Chymorth i Ferched, ychydig o swyddogion sy’n wynebu “unrhyw oblygiadau ystyrlon” am drais yn erbyn menywod neu ferched.
Dywedodd y dirprwy gyfarwyddwr, Denzi Ugur: “Rydyn ni angen gweld newid radical yn y ffordd mae heddlu’n ymateb i drais yn erbyn merched – yn enwedig o fewn eu lluoedd eu hunain.
“Mae hyn yn golygu mwy o atebolrwydd a gweithredu strategol, brys ar y cyd er mwyn mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod.
“Yn y pen draw, rydyn ni angen mynd i’r afael â’r methiannau sefydliadol eang hyn cyn ein bod ni’n gallu dechrau mynd i’r afael â hyder menywod yn yr heddlu.”
“Llygredd”
Dangosa’r data bod 530 o honiadau am gamymddwyn rhywiol wedi’i wneud yn erbyn swyddogion Heddlu’r Metropolitan, gan gynnwys honiadau gan y cyhoedd neu rhai mewnol.
Roedden nhw’n ymwneud â 713 o heddweision a staff, gyda 577 ohonyn nhw yn erbyn dynion.
Dywedodd y Swyddog Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu, sy’n goruchwylio system gwynion yr heddlu, eu bod hi i fyny i luoedd “gael gwared” ar achosion o heddlu yn camddefnyddio eu pwerau.
“Mae camddefnyddio pwerau’r heddlu ar gyfer ecsbloetio rhywiol, neu drais, yn cael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr, ac effaith ddifrifol ar hyder y cyhoedd mewn swyddogion unigol a’r gwasanaeth ar y cyfan,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu.
“Mae’n hanfodol bod systemau effeithiol mewn grym i atal, monitro a mynd i’r afael ag unrhyw unigolyn sy’n ecsbloetio’r ymddiriedaeth yna ar frys.
“Yng nghyd-destun gwasanaeth yr heddlu, mae’r ymddygiad hwn yn fath o lygredd a dylid ei drin yn y ffordd hynny.”