Mae disgwyl y bydd dynes yn ymddangos gerbron llys ynadon y bore ’ma i wynebu cyhuddiadau o droseddau gyrru ar ôl i blentyn farw mewn gwrthdrawiad yn Llanelli nos Wener.

Mae Lucy Dyer, 23 oed, o Heulwen Terrace yn y dref, wedi’i chyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus a gyrru dan ddylanwad alcohol.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i’r gwrthdrawiad rhwng BMW glas a Vauxhall Vectra glas ar groesffordd Heol Goffa yn Llanelli am tua 9 o’r gloch.

Dywedodd y llu y bu farw plentyn oedd yn teithio yn un o’r cerbydau o ganlyniad i’r gwrthdrawiad.

Ddalfa

Dydyn nhw ddim wedi manylu am oedran y plentyn.

Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth a chefnogaeth i deulu’r plentyn fu farw.

Ni chafodd unrhyw un arall eu hanafu yn y gwrthdrawiad.

Mae disgwyl i Ms Dyer, oedd yn teithio yn y cerbyd arall, ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli y bore ’ma.

Yn y cyfamser, mae hi wedi ei chadw yn y ddalfa.

Mae’r heddlu yn apelio ar i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth ychwanegol a fydde o gymorth iddyn nhw i gysylltu.