Bydd angen i bobl gael pàs Covid-19 er mwyn mynychu digwyddiadau torfol yng Nghymru o 7 o’r gloch bore heddiw (dydd Llun) ymlaen.
Bydd y pàs yn orfodol i unrhyw un dros 18 oed sydd am fynd i glybiau nos, digwyddiad lle mae angen sefyll tu fewn ar gyfer mwy na 500 o bobl, lle mae angen sefyll tu allan ar gyfer mwy na 4,000 o bobl, ac unrhyw ddigwyddiad sy’n cynnwys dros 10,000 o bobl.
Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau chwaraeon hefyd.
Fe fydd modd derbyn pàs Covid-19 y GIG os ydych yn 16 oed neu’n hŷn ac:
- eich bod wedi cael eich brechu yng Nghymru neu yn Lloegr
- nad ydych wedi eich brechu ond am ddefnyddio’r pàs i ddangos canlyniad prawf llif unffordd negyddol.
- Bydd yn drosedd i arddangos pàs Covid-19 ffug yn ogystal â phrawf unffordd ffug o ddydd Llun hefyd.
Pleidlais
Gallai unrhyw un sydd yn defnyddio prawf ffug wynebu dirwy o £60.
Fe fydd unrhyw ddirwy yn gostwng i £30 os bydd yn cael ei thalu o fewn 30 diwrnod.
Cafodd y bleidlais dros basys Covid-19 gorfodol ei hennill o drwch blewyn gan y llywodraeth yn y Senedd ddydd Iau, a hynny o 28-27 pleidlais.
Roedd y gwrthbleidiau wedi datgan eu gwrthwynebiad chwyrn i’r cynllun, gyda chryn ddyfalu o flaen llaw y byddai cynnig y llywodraeth yn cael ei drechu ar ôl i Blaid Cymru ddatgan na fyddai ei haelodau yn y Senedd yn cefnogi’r cynnig.
Cyn y bleidlais, dywedodd Llefarydd Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS bod y cynnig yn “codi mwy o gwestiynau nag atebion.”
Tystiolaeth
“Mae tystiolaeth annigonol ac ychydig iawn o fanylion ar sut y byddai’n gweithio’n ymarferol.
“Pan ry’n ni wedi cefnogi cyfyngiadau, ry’n ni wedi gwneud hynny pan fo’r dystiolaeth yn glir o ran yr effaith bositif y byddai’r mesurau hynny’n eu cael,” ychwanegodd.
Roedd y Blaid Geidwadol a’r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi datgan cyn y bleidlais bod y cynllun yn siomedig.
Ond roedd un bleidlais yn ddigon i sicrhau fod pasys Covid-19 yn dod yn weithredol drwy Gymru i oedolion sydd am fynd i ddigwyddiadau mawr o hyn allan.