Mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi cyflwyno cyfyngiadau newydd ar ymwelwyr yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.

Daw hyn yn dilyn cynnydd mewn achosion Covid-19 yn yr ysbyty hwnnw a’r gymuned ehangach, a bydd dim modd i unrhyw un ymweld â chleifion o heddiw (11 Hydref) ymlaen.

Byddan nhw’n caniatáu ymwelwyr mewn amgylchiadau arbennig, yn enwedig os yw’r claf ar ddiwedd oes neu mewn cyflwr critigol.

Ond er mwyn gwneud hynny, bydd rhaid i bob ymwelydd gynnal prawf llif ochrol (lateral flow) gartref cyn teithio i’r ysbyty.

Monitro

Mae rheolau cyffredinol, fel gwisgo masgiau a chynnal pellter cymdeithasol, yn parhau i fod yn weithredol i ymwelwyr penodol yr ysbyty.

Caiff y sefyllfa ei monitro yn gyson gan fwrdd iechyd Hywel Dda, a byddan nhw’n gwneud diweddariad pellach pan fydd y cyfyngiadau’n codi.

Mae’r bwrdd hefyd yn “diolch i bawb am eich dealltwriaeth ar yr adeg hon wrth i ni weithio i atal y feirws hwn rhag lledaenu.”