Mae teulu wedi talu teyrnged i feiciwr modur a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A487 yng Nghorris ger Machynlleth.

Roedd Michael Peel yn 46 oed ac yn wreiddiol o Ogledd Iwerddon, ond wedi ymgartrefu gyda’i deulu yn Llanrwst.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad ar yr A487 ychydig cyn 12:20yh ddoe (10 Hydref), ar ôl i ddau feic modur daro i mewn i’w gilydd wrth ymyl safle’r Ganolfan Grefft yng Nghorris Uchaf.

Daeth ymateb brys gan yr heddlu, y Gwasanaeth Ambiwlans, ac Ambiwlans Awyr Cymru, ond er gwaethaf ymdrechion swyddogion, bu farw’r gyrrwr yn y fan a’r lle.

Roedd yn rhaid cau’r A487 am rai oriau er mwyn i wasanaethau brys ddelio gyda’r ddamwain, ond roedd y ffordd wedi ailagor erbyn 18:20 neithiwr.

Teyrnged

Fe roddodd teulu Michael Peel deyrnged iddo yn dilyn ei farwolaeth.

“Roedd ei wraig, Claire, a’u merch, Imogen yn caru Michael yn fawr iawn,” medden nhw.

“Yn wreiddiol o Ogledd Iwerddon, lle cafodd ei oroesi gan ei frawd David, roedd Michael yn byw gyda’i deulu yn Llanrwst.

“Roedd yn gweithio fel rheolwr cynnyrch technoleg gwybodaeth, ac roedd ganddo gariad at ei feic modur, darllen, ffilmiau a diddordeb diweddar mewn DIY.

“Hoffan ni ddiolch yn fawr iawn i’r gwasanaethau brys ac aelodau’r cyhoedd a gynorthwyodd Michael yn lleoliad y ddamwain drasig hon.”

Yr A487 ger Canolfan Crefft Corris. Llun o Google Maps.

Datganiad yr heddlu

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth ynglŷn â’r ddamwain.

“Rwy’n cynnig fy nghydymdeimladau dwysaf â theulu’r beiciwr modur, sy’n cael eu cefnogi gan swyddog arbennig ar yr adeg anodd hon,” meddai Sarjant Raymond Williams o’r Uned Plismona Ffyrdd.

“Ar hyn o bryd, rydyn ni’n ymchwilio i’r digwyddiad hwn fel gwrthdrawiad ffordd angheuol ac yn gofyn i unrhyw dystion, sydd heb siarad eisoes, gysylltu â’r heddlu gydag unrhyw wybodaeth neu luniau dash cam.

“Hoffwn ddiolch i ddefnyddwyr y ffordd am eu hamynedd a’u dealltwriaeth tra bu’r ffordd ar gau.”

Mae unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad yn cael eu hannog i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru, naill ai ar-lein neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod Z149033.