Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i 30 mlynedd – 22 mlynedd yn y carchar gyda chyfnod estynedig o wyth mlynedd ar drwydded.
Cafwyd Jason James, 48 oed, gynt o St Clements Road, Neyland, yn euog o gam-drin plant yn rhywiol a threisio plant yn dilyn ymchwiliad dwys gan Heddlu Dyfed-Powys.
Cafodd James ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe heddiw ar ôl cael ei gael yn euog o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn, ymosod drwy dreiddio, tri chyfrif o dreisio plentyn o dan 13 oed a dau achos o ymosodiad rhywiol ar blentyn o dan 13 oed.
Roedd y cyhuddiadau’n cynnwys pedwar o blant, gafodd gefnogaeth drwy’r ymchwiliad gan swyddogion arbenigol o Heddlu Dyfed-Powys.
Dywedodd y swyddog ymchwilio DC Kieran Griffiths: “Cafodd James ei arestio i ddechrau am dorri ei Orchymyn Atal Troseddau Rhywiol (SOPO) ym mis Mai 2019, ac roedd hyn wedi digwydd yn dilyn adroddiad ei fod yn cael mynediad heb oruchwyliaeth gyda phlant.
“Hoffem ddiolch i’r unigolion hynny a’u teuluoedd a ddaeth ymlaen bryd hynny.”
“Symud ymlaen”
“Mae’n dda cael y canlyniad hwn i’r dioddefwyr a’u teuluoedd, sydd wedi dangos llawer iawn o ddewrder ac urddas drwy gydol yr ymchwiliad a’r broses llys,” meddai.
“Mae James yn ddyn ysgytwar. Ceisiodd osgoi mynd i’r llys ond barnwyd ei fod yn addas i sefyll prawf ar ddau achlysur.
“Yna gwrthododd fynychu’r llys gan ddangos diystyrwch llwyr i’w ddioddefwyr.
“Mae’r ymchwiliad hwn wedi bod yn waith enfawr i swyddogion a staff mewn gwahanol adrannau yn Heddlu Dyfed-Powys, felly rwy’n falch bod eu gwaith caled wedi talu ar ei ganfed.
“Gobeithio y bydd y ddedfryd a roddwyd i James heddiw yn helpu’r holl ddioddefwyr a theuluoedd i symud ymlaen gyda’u bywydau.
“Fel y dengys yr achos hwn, byddwn bob amser yn cymryd adroddiadau o’r math hwn o ddifrif ac yn trin dioddefwyr mewn modd sensitif, gan ddarparu cymorth arbenigol drwy gydol yr ymchwiliad a’r achos llys.”