Mae cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol wedi dweud y byddai’n braf gweld prinder gofalwyr yn sbarduno cymaint o ddadl a phrinder gyrwyr lorïau.

Dywedodd Jake Morgan o Gyngor Sir Caerfyrddin fod y sector gofal a’r rhai sy’n gweithio ynddo yn “rhan sylfaenol o’n seilwaith”.

Teimlai hefyd fod yn rhaid cynnal dadl ehangach am gyllid gofal cymdeithasol yn ar frys.

Roedd Jake Morgan yn annerch aelodau’r cabinet am y pwysau parhaus sy’n wynebu gofal cymdeithasol yn y sir a’r hyn oedd yn cael ei wneud i’w lliniaru.

Diolchodd i’r staff am eu “hymdrechion eithriadol”, a dywedodd fod y cyngor yn darparu mwy o ofal nag ar unrhyw adeg arall yr oedd yn gwybod amdano.

Ond amlinellodd ei adroddiad i’r cabinet yr heriau parhaus y mae’r sector yn eu hwynebu.

Cyfeiriodd at lythyr a anfonwyd gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol at Lywodraeth Cymru fis diwethaf a ddywedodd fod y sefyllfa’n “dechrau cyfyngu ar ein gallu i gefnogi rhai o’n pobl fwyaf agored i niwed yn y gymuned”.

Amlinellodd yr adroddiad 10 ffactor, megis y gostyngiad yng ngweithwyr yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit, cynnydd mewn bregusrwydd ymhlith pobol hŷn, gweithlu blinedig, a mwy o alw am ofal cartref oherwydd amharodrwydd gan fwy o bobol oedrannus i fynd i gartrefi gofal preswyl.

37 o swyddi gwag

Roedd gwasanaeth gofal cartref mewnol y cyngor yn cael ei ddefnyddio i ddarparu 75% o becynnau gofal i’r rhai sydd angen cymorth, gyda’r gweddill yn cael eu darparu gan y sector annibynnol.

Mae’r ffigwr hwn wedi gostwng i 25%, ond ar hyn o bryd mae’n 38% pan ystyriwyd cymorth ail-alluogi.

Mae’r rhan fwyaf o’r gofalwyr mewnol yn derbyn £11 yr awr, ond mae gan y gwasanaeth 37 o swyddi gwag.

Dywedodd Jake Morgan bod mwy o ofalwyr yn cael eu recriwtio, bod mwy o bobol yn cael cymorth wrth symud o’r ysbyty i’r cartref, a bod y cyngor yn bwriadu datblygu prentisiaethau gofalwyr.

Gobeithiai y gallai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sicrhau mwy o welyau yn Ysbyty Dyffryn Aman, Glanaman, i leddfu pwysau’r ysbyty i’r cartref.

“Llwm a difrifol”

Mae gan Sir Gaerfyrddin 104 o breswylwyr yn aros am becyn gofal cartref, y mae hanner ohonynt yn yr ysbyty.

Mae 26 o bobol eraill yn y gymuned yn aros am becyn ail-alluogi.

Yn y cyfamser, mae 240 o bobol ag anghenion gwaith cymdeithasol yn aros i gael eu hasesu.

Rhoddir sylw brys i achosion blaenoriaeth.

Ar hyn o bryd mae 22 o swyddi gwag ar draws gwaith cymdeithasol i oedolion, gwaith cymdeithasol plant a gwaith cymdeithasol iechyd meddwl – sy’n cyfateb i bron i un rhan o bump o weithlu’r adran.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Emlyn Dole, bod yr adroddiad wedi gwneud “ddarllen llwm a difrifol”, ond bod y cyngor yn gwneud popeth o’r gallu i fynd i’r afael â’r materion.