Mae nifer y bobl sy’n cael eu cyflogi yng Nghymru wedi cynyddu 1.8% o gymharu â’r cyfnod o fis Mehefin nes mis Awst 2020, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Cymru, ar y cyd â dwyrain Lloegr, welodd y cynnydd blynyddol uchaf mewn cyfraddau cyflogaeth yn ôl y data ar gyfer y chwarter o fis Mehefin nes Awst 2021.
Roedd y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru ar gyfer Mehefin i Awst yn 74.2%.
Er hynny, mae diweithdra wedi cynyddu 0.2% ers llynedd, ac ers y chwarter rhwng Mawrth a Mai 2021.
Golyga hyn bod y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 4%, sy’n is na’r cyfartaledd dros y Deyrnas Unedig (4.5%).
Bu gostyngiad mawr yng nghyfradd segurdod economaidd yng Nghymru rhwng haf 2020 a haf 2021 hefyd, gyda gostyngiad o 2.1%.
Ym Medi 2021, dim ond yn Llundain a’r Alban yr oedd llai o weithwyr yn cael eu cyflogi na chyn y pandemig.
Swyddi gwag
Dywedodd Darren Morgan, cyfarwyddwr ystadegau economaidd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, bod y “farchnad swyddi wedi parhau i adfer wedi effeithiau’r coronafeirws, gyda nifer y gweithwyr ar restrau tâl ym mis Medi nawr dipyn uwch na lefelau cyn y pandemig”.
“Mae swyddi gwag wedi cyrraedd record newydd ar gyfer mis Medi hefyd, gan gyrraedd bron i 1.2 miliwn, gyda’n hamcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu bod yr un maint o swyddi ar gael nawr ym mhob diwydiant ag yr oedd cyn dechrau Covid-19.”
Er hynny, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn tynnu sylw at yr argyfwng recriwtio yn y Deyrnas Unedig, gyda dadansoddiadau’n dangos bod nifer o sectorau’n cael trafferth llenwi swyddi gwag.
Y sector lletygarwch sy’n cael mwyaf o drafferth llenwi swyddi gwag, yn ôl dadansoddiad diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gyda 30% yn dweud ei bod hi’n anoddach nag arfer llenwi swyddi gwag.
Yn ôl yr ystadegau, bu’r cynnydd mwyaf mewn swyddi gwag yn y sector cymorth a gwaith gweinyddol.
Roedd y sector lletygarwch yn trio llenwi 32,000 swydd ym mis Medi.