Fe allai gymryd pedair blynedd i lefelau traffig ym mhorthladdoedd Cymru ddychwelyd i’r hyn oedden nhw cyn Brexit.
Yn ôl yr Athro Andrew Potter o Brifysgol Caerdydd, mae’n disgwyl y bydd niferoedd yn codi dros amser, ond wrth edrych ar ragolygon hirdymor, yn hytrach na’r rhifau cyflawn, “mae’n deg dweud y bydd Brexit wedi achosi gostyngiad yn swm y traffig”.
Dangosa’r ystadegau bod gostyngiad sylweddol wedi bod mewn traffig yn ystod chwarter cyntaf 2021, ac er bod y lefelau wedi codi yn yr ail chwarter, mae’n parhau’n dipyn is na chyn 2020.
Yn sgil Brexit, mae cwmnïau’n ail-lunio eu teithiau o amgylch cyfyngiadau Brexit, meddai Andrew Potter, sy’n Athro mewn Trafnidiaeth a Logisteg.
Mae hynny wedi arwain at gynnydd cymedrol mewn teithiau i Ogledd Iwerddon o Brydain, sydd ddim yn dod trwy Gymru, a chynnydd yn nifer y teithiau uniongyrchol sy’n cael eu gwneud o Iwerddon i gyfandir Ewrop.
Ystadegau
“Os ydych chi’n edrych ar draffig cludo nwyddau, ar ôl Brexit ddechrau Ionawr roedd yna ostyngiad anferth yn nifer y llwythau oedd yn pasio drwy bob un o dri phorthladd Cymru,” meddai’r Athro Andrew Potter, gan gyfeirio at Gaergybi, Abergwaun a Phenfro.
“Am resymau niferus, i ddechrau bod pobol eisiau osgoi unrhyw amharu posib wrth i’r prosesau newydd ddod i rym.
“Yn gysylltiedig â hynny, cyn y Nadolig roedd cynnydd mawr mewn traffig i Iwerddon er mwyn cael stoc mewn lle.
“Os ydych chi’n edrych ar yr ystadegau ar gyfer trydydd a phedwerydd chwarter 2020, roedden nhw’n sylweddol uwch nag y byddech chi’n ei ddisgwyl, efallai.”
“Yn y bôn, fe wnaeth cwmnïau fynd â’u cynnyrch yno’n gynharach nag y bydden nhw fel arfer, felly roedd gennych chi ostyngiad mawr yn nhri mis cyntaf y flwyddyn hon.
“Ers hynny, mae pethau wedi gwella o ran y llwythi, er nad ydyn nhw’n ôl i lefelau cyn-Brexit eto, yn sicr i rywle fel Caergybi rydych chi’n ôl i lefelau pump, chwe blynedd yn ôl o ran niferoedd.
“Mae’n dod yn ôl, ond y cwestiwn yw a fydd e’n parhau i dyfu neu’n lefelu ar lefel is erbyn diwedd eleni.”
Gwasanaethau uniongyrchol
Yn ôl yr Athro Andrew Potter, mae yna dystiolaeth bod nwyddau’n cael eu symud yn uniongyrchol o Iwerddon i gyfandir Ewrop – patrwm oedd wedi cychwyn yn y cyfnod rhwng y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd a phan wnaeth y Deyrnas Unedig adael.
“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae yna gynnydd wedi bod yn nifer y gwasanaethau uniongyrchol, yn enwedig o Rosslare yn y de sydd ychydig yn nes at y cyfandir,” meddai.
“O ran y cynnydd yna cyn Brexit, mae niferoedd y cychod sy’n gwneud y teithiau hynny wedi aros yn gyson, ac wedi cynyddu ychydig bach ers hynny.
“Mae’r daith uniongyrchol yna yn amlwg yn denu traffig a fyddai wedi dod drwy borthladdoedd Cymru yn draddodiadol, maen nhw’n mynd ffordd wahanol nawr.”
Mae yna “elfen o gyfnod addasu” yn gyfrifol am y gwymp mawr mewn traffig a welwyd ar ddechrau 2021, ond mae’n debyg y bydd Brexit yn cael effaith hirdymor hefyd, meddai’r Athro Andrew Potter.
“Bydd lefelau traffig yn dychwelyd at lefelau cyn-Brexit yn y pendraw, ond os ydych chi’n edrych ar y rhagolygon dros amser yn hytrach na’r rhifau cyflawn, mae’n deg dweud y bydd Brexit wedi achosi gostyngiad yn swm y traffig.”
Yn ostgyal â thraffig yn mynd yn uniongyrchol i’r cyfandir, mae “cynnydd cymedrol” wedi bod mewn traffig sy’n mynd i Ogledd Iwerddon hefyd, meddai.
“Dydi hwnnw ddim yn mynd drwy Gymru, mae’n mynd drwy Cairnryan yn yr Alban, ac i ryw raddau, Heysham yn Swydd Gaerhirfryn lle mae nifer o gychod uniongyrchol i Belffast a Gogledd Iwerddon,” eglurodd.
“Mae trefnwyr logisteg yn ail-lunio er mwyn gweithio o gwmpas cyfyngiadau newydd, ac o ganlyniad i hynny, mae twf Caergybi a phorthladdoedd eraill Cymru wedi gostwng.
“O gymryd bod y twf hirdymor rydyn ni wedi’i weld dros y ddeng mlynedd diwethaf yn parhau… yn y pendraw byddwn ni’n cyrraedd yn ôl i niferoedd fel cyn-Brexit, ac uwch, mae’n debyg.
“Ond gallen ni fod yn edrych ar dair neu bedair blynedd yn y dyfodol cyn ein bod ni’n gweld hynny.”
Abergwaun a Phenfro
Bydd hyn yn cael effaith negyddol ar borthladdoedd Cymru yn y tymor byr, felly, meddai’r Athro Andrew Potter.
“Rydyn ni bob tro’n edrych ar Gaergybi achos mai honno yw’r fwyaf, bydd traffig yn dychwelyd yno – bydd cael teithwyr yn ôl yn help mawr i Gaergybi oherwydd mae’n un o’r siwrnai boblogaidd – nid yn unig i lwythi ond i geir hefyd.
“Bydd hi dal yn ddiddorol gweld beth fydd yn digwydd yn ne Cymru gyda’r cyfuniad o Abergwaun a Phenfro.
“Mae pethau wedi gwella. Cafodd Abergwaun eu taro’n wael yn ystod y chwe mis cyntaf, nid gan Brexit yn unig, ond gan y Stena Europe – sef y cwch sy’n hwylio ar y daith honno.
“Ym mis Chwefror, cafodd ei gyrru i rywle arall yn lle cwch arall oedd yn cael ei thrwsio, ac wedyn ym mis Mai aeth hi i ffwrdd i gael ei thrwsio am bythefnos i fod, ond cymerodd lot hirach na hynny.
“Yn ystod y ddau gyfnod hynny, doedd yna ddim gwasanaethau’n gadael Abergwaun. Ers y tri mis diwethaf, mae’r cwch wedi bod yn mynd yn ôl ac ymlaen yn gyson rhwng Abergwaun a Rosslare.
“Bydd hi’n ddifyr gweld, pan mae’r set nesaf o ystadegau’n cael eu cyhoeddi, os yw’r traffig wedi adfer yno o gwbl, a sut mae wedi adfer,” ychwanegodd.
“Bydd hynny’n rhoi syniad gwell i ni ynghylch sut mae marchnad de orllewin Cymru’n gwneud ar y cyfan.”
Covid
Yn ôl yr Athro Andrew Potter, mae siwrnai ar gyfer teithwyr yn fater “mwy cymhleth”.
“Dydi hwnnw ddim yn cael effeithio gymaint gan Brexit, ond mae wedi cael ei effeithio’n ddifrifol gan Covid.
“Mae traffig teithwyr wedi stopio fwy neu lai am gyfnod hir iawn o amser dros y deunaw mis diwethaf, oherwydd o’r cyfyngiadau ar deithio.
“Wrth i Iwerddon agor, dw i’n meddwl eich bod chi’n dechrau gweld lefelau traffig yn dychwelyd. Gan gymryd y bydd popeth yn mynd yn iawn dros y ddeufis nesaf, dw i’n dychmygu y bydd traffig Nadolig yn agosach i’r hyn fu yn y gorffennol ar gyfer teithwyr, yn syml, gan fod pawb eisiau gweld ei gilydd.”