Mae ffigyrau’n dangos bod nifer y marwolaethau yn ymwneud â Covid-19 wedi gostwng yng Nghymru.

Roedd nifer y marwolaethau yn ymwneud â Covid-19 wedi gostwng i 64 yn yr wythnos hyd at 1 Hydref, o’i gymharu ag 88 yn yr wythnos flaenorol.

Roedd nifer y marwolaethau gafodd eu cofrestru yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 1 Hydref yn 653, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Roedd hyn 58 yn llai o farwolaethau na’r wythnos flaenorol ac 8.1% yn uwch na’r cyfartaledd pum mlynedd.

O’r marwolaethau a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig yn yr un wythnos, roedd 972 yn ymwneud a Covid-19, sydd 138 yn llai na’r wythnos flaenorol.

Roedd nifer y marwolaethau a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 1 Hydref 2021 yn 12,132. Mae hyn 1,423 yn fwy na’r cyfartaledd pum mlynedd.

Ers canol mis Mehefin mae nifer y marwolaethau a gofrestrwyd bob wythnos wedi bod yn cynyddu, gan adlewyrchu effaith trydedd don Covid-19.

Mae’r ffigyrau diweddaraf yn awgrymu y gallai’r duedd hon fod wedi dod i ben.

Fodd bynnag, mae’n rhy fuan i wybod yn sicr, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Nid yw marwolaethau yn ystod trydedd don y feirws erioed wedi cyrraedd y lefelau a welwyd ar anterth yr ail don.

Er enghraifft, cofrestrwyd tua 8,433 o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 yng Nghymru a Lloegr yn yr wythnos hyd at 29 Ionawr eleni.

Mae’r nifer gymharol isel o farwolaethau yn y drydedd don, o’u cymharu â’r ail don, yn adlewyrchu llwyddiant cyflwyno brechlynnau coronafeirws ledled y Deyrnas Unedig, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.