Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw’n rhoi £7m i brosiectau sy’n mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd neu natur.

Bydd 29 prosiect ledled Cymru yn elwa o arian o Gronfa Rhwydweithiau Natur, a gafodd ei sefydlu ym mis Mawrth eleni.

Mae’r prosiectau i gyd wedi eu lleoli mewn safleoedd gwarchodedig, ac yn darparu noddfa hanfodol a diogelwch i bron i 70 o rywogaethau a dros 50 math o gynefinoedd sydd dan fygythiad.

Ar ben hynny, maen nhw’n cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru drwy dwristiaeth hamdden, ffermio, pysgota a choedwigaeth.

“Rhaid i ni ddiogelu ein hamgylchedd”

Bydd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cadarnhau’r gefnogaeth yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw (12 Hydref).

“Mae mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur wrth wraidd popeth a wnawn – rhaid i ni ddiogelu ein hamgylchedd i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau,” meddai.

“Gan gydnabod pwysigrwydd defnyddio grym cymunedau lleol, bydd yr arian hwn yn cefnogi gwyddoniaeth dinasyddion, rhaglenni ymgysylltu ag ysgolion a hyfforddi gwirfoddolwyr i adeiladu rhwydweithiau o bobl sy’n ymwneud â’r safleoedd hyn, sy’n gonglfeini ein gwaith adfer natur.

“Rydyn ni eisiau i bawb yng Nghymru weld natur – oherwydd os yw pobl mewn cysylltiad â natur, maen nhw’n gwerthfawrogi natur.”

“Hanfodol”

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi cymryd cyfrifoldeb dros weinyddu’r Gronfa Rhwydweithiau Natur.

“O adfer gwlypdiroedd, i greu cynefin cyfoethog i fywyd gwyllt ffynnu, mae’n hanfodol ein bod yn cadw ac yn ailadeiladu ein treftadaeth naturiol,” meddai cyfarwyddwr y Gronfa yng Nghymru, Andrew White.

“Bydd y cynllun Rhwydweithiau Natur, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn caniatáu i brosiectau wneud gwaith cadwraeth uniongyrchol sy’n hanfodol er mwyn diogelu ein bioamrywiaeth, a bydd hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o sut a pham mae angen i ni ddiogelu ein dyfodol.”