Mae Gweinidog iechyd Cymru wedi dweud ei bod yn “barod i ymddiheuro” am unrhyw fethiannau a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ystod pandemig y coronafeirws.

Roedd Eluned Morgan yn siarad mewn sesiwn friffio gan Lywodraeth Cymru ddydd Mawrth (12 Hydref).

Bu’n ymateb i gwestiynau gan newyddiadurwyr am yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Aelodau Seneddol ar ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r coronafeirws.

Pan ofynnwyd iddi am Dugaeth Caerhirfryn Stephen Barclay yn gwrthod ymddiheuro am fethiannau polisi a arweiniodd at farwolaethau, dywedodd Eluned Morgan nad oedd hi “erioed wedi deall pam fod gan wleidyddion broblem gydag ymddiheuro”.

“Ac felly ydw, wrth gwrs rwy’n barod i ymddiheuro i bawb sydd wedi dioddef yn ystod y pandemig,” meddai.

“Roedd hwn yn glefyd newydd nad ydym erioed wedi’i weld o’r blaen.

Camgymeriadau

“Nid oedd yr un ohonom yn gwybod sut yr oedd yn mynd i’n heffeithio, nid oedd yr un ohonom yn gwybod sut yr oedd yn mynd i ledaenu, nid oedd gan yr un ohonom unrhyw syniad fod modd ei ledaenu heb hyd yn oed ddangos unrhyw symptomau.

“Wrth gwrs roedd gennym lawer iawn i’w ddysgu ac rwy’n falch o ddweud ein bod wedi dysgu yn ystod y pandemig.

“Wrth gwrs, rydym wedi gwneud rhai camgymeriadau ar ddechrau’r broses honno oherwydd diffyg gwybodaeth a data, a gwybodaeth yr ydym bellach wedi’i dysgu, ac wrth gwrs, rwy’n credu bod gennym ddyletswydd a chyfrifoldeb i ymddiheuro wrth bobol lle rydym wedi gwneud camgymeriadau.”

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru: “Mae’r adroddiad hwn yn datgelu’r anghyfrifoldeb sydd wrth wraidd Llywodraeth San Steffan a arweiniodd at ddegau o filoedd o fywydau’n cael eu colli yn un o’r methiannau iechyd cyhoeddus gwaethaf erioed a welwyd gan y Deyrnas Unedig.

Profedigaeth

“Yn rhy araf i ymateb, yn rhy hwyr i gyhoeddi cyfnod clo, ac yn rhy falch i ddysgu o wledydd sydd â mwy o arbenigedd, rhaid i’r adroddiad hwn roi diwedd ar y gred gan wleidyddion San Steffan eu bod rywsut yn unigryw yn y byd.

“Yn y cyfamser, gyda dim ond naw cyfeiriad at Gymru yn yr adroddiad 147 tudalen, mae Cymru wedi cael ein neilltuo i’r troednodiadau.

“Mae’n bwysicach felly fwy nag erioed ein bod yn cael ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru yn unig i drin y pandemig.

“Ni allwn setlo am ddim ond pennod mewn ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig.

“Rhaid i ni edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn fanwl, ac yn gyhoeddus, i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol – ni ddylid osgoi craffu manwl.

“Bydd pobol Cymru – a’r teuluoedd mewn profedigaeth – yn disgwyl ac yn haeddu dim llai.”

Craffu

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd am weld ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nghymru.

“Roedd y pandemig yn argyfwng digynsail ac fel y mae’r adroddiadau hyn yn dangos, fe wnaeth rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth (y Deyrnas Unedig) ddilyn y wyddoniaeth a’r dystiolaeth a ddarparwyd gan arbenigwyr,” meddai llefarydd y blaid ar Iechyd, Russell George.

“Ac er bod rhaglen gaffael brechlynnau ardderchog Llywodraeth Prydain yn cael ei chydnabod, mae gweinidogion yn iawn i nodi’r angen i ddysgu gwersi o anawsterau a heriau’r 18 mis diwethaf.

“Fodd bynnag, ni ellir dysgu’r gwersi hyn yn San Steffan yn unig pan bod yno lywodraethau eraill ledled y Deyrnas Unedig a oedd yn gyfrifol am eu penderfyniadau eu hunain, gan gynnwys Llafur ym Mae Caerdydd.

“Yn wir, yr hyn y mae’r adroddiad hwn – sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar ymateb Llywodraeth Prydain – yn dangos pam mae angen ymchwiliad Covid sy’n benodol i Gymru, fel y gall y Llywodraeth Lafur hefyd dderbyn y craffu y mae pob democratiaeth yn ei haeddu.”