Mae Caerdydd ymhlith y dinasoedd lle nad oes llefydd diogel i gadw beiciau, yn ôl ystadegau.

Yn ôl y data, mae degau o filoedd o bobol sy’n byw mewn dinasoedd yn y Deyrnas Unedig ar restrau aros er mwyn cael lle diogel i gadw eu beiciau.

Yn sgil hynny, mae ymgyrchwyr yn galw am fwy o arian i gynghorau allu darparu llefydd diogel i bobol barcio beiciau ar strydoedd er mwyn gallu symud tuag at drafnidiaeth werdd.

Mae ystadegau sydd wedi cael eu casglu gan wasanaeth newydd Press Association yn dangos bod yna lawer mwy o alw am lefydd i gadw beiciau ar strydoedd nag sydd o lefydd.

Dim ond 20,000 uned cadw beiciau sydd yn y Deyrnas Unedig, gyda dros 51,000 o bobol ar restrau aros.

Mae’r rhan fwyaf o unedau yn Llundain, er bod rhai yng Nghaeredin, Glasgow, Bryste a Salford hefyd.

Does dim rhai o gwbl yng Nghaerdydd, Lerpwl, Birmingham, Manceinion na Newcastle.

Cyllid hirdymor

Yn ôl David Renard, llefarydd trafnidiaeth y Gymdeithas Llywodraeth Leol sy’n cynrychioli cynghorau Cymru a Lloegr, mae angen cyllid hirdymor i roi “darpariaeth well i feicwyr”.

Mewn rhai ardaloedd, gall fod yn ddrytach cael lle i gadw beic am flwyddyn na thalu am y drwydded barcio rataf i gar, er enghraifft trwydded i gar trydan neu gar ag allyriadau isel.

Gall diffyg lle i gadw beic olygu nad yw pobol yn eu prynu, neu bod pobol yn cael eu gorfodi i’w cadw nhw tu allan er bod perygl iddyn nhw gael eu dwyn.

Bu dros 77,000 o adroddiadau am feiciau wedi eu dwyn yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth eleni, sy’n cyfateb i fwy nag wyth beic yn cael eu dwyn bob awr, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

‘Potensial’

Dywed Chris Boardman, y seiclwr Olympaidd sy’n gomisiynydd trafnidiaeth ym Manceinion Fwyaf, fod y rhestr aros yno yn “hynod rwystredig ond yn anhygoel o gyffrous”.

“Edrychwch ar y potensial sydd yna,” meddai.

“Rydyn ni wedi gadael i strydoedd gael eu rheoli gan geir.

“Ond os ydych chi eisiau i bobol deithio mewn ffyrdd gwahanol, yna mae’n rhaid i chi gael gwared ar y rhwystrau, ac mae parcio diogel yn dod i fyny dro ar ôl tro fel rhan hanfodol o hynny.”

Yn ôl Anthony Lau, sylfaenydd Cyclehoop, y cwmni sy’n darparu nifer o unedau parcio beiciau’r Deyrnas Unedig, mae “galw am ddwy uned arall yn cael ei greu” bob tro mae uned yn cael ei gosod “wrth i aelodau newydd siarad”.

Mae’n amddiffyn y gost, gan ddweud bod defnyddwyr yn gallu cael lle diogel i storio eu beiciau “am bris ambell goffi bob mis, yn fras”.

Angen datrysiad gwell

Mae Leo Murray, cyfarwyddwr arloesedd gyda’r elusen amgylcheddol Possible, yn rhybuddio bod peryg i uchelgais Boris Johnson, prif weinidog Prydain, o gael “oes aur beicio” fethu oherwydd nad yw cynghorau’n gallu cwrdd â’r “galw lleol cynyddol ar gyfer seilwaith beicio”.

“Mae’r diffyg cyffredinol mewn llefydd diogel i gadw beiciau yn cael ei adnabod yn gyson fel un o’r rhwystrau mwyaf sy’n atal pobol rhag dechrau beicio, yn enwedig ymysg aelwydydd ar incymau isel ynghanol dinasoedd sy’n gorfod talu am le tu allan,” meddai.

Dywed ei bod hi’n “hurt” fod pobol yn gorfod talu mwy i storio beiciau na cheir weithiau, a bod angen datrysiad gwell ar gyfer cymunedau tlotach.