Mae hi’n bwysig edrych ar iaith y ddadl wleidyddol yn dilyn marwolaeth yr Aelod Seneddol David Amess, yn ôl Comisiynydd Heddlu De Cymru.

Dywed Alun Michael, Ysgrifennydd cyntaf Cymru yn y Cynulliad a chyn-weinidog Llafur yn San Steffan, fod iaith y ddadl wleidyddol wedi caledu mewn newyddiaduraeth ac rhwng pleidiau.

Mae Heddlu Llundain wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i ddigwyddiad brawychol ar ôl i Syr David Amess gael ei drywanu i farwolaeth ddydd Gwener (Hydref 15).

Ar ôl cyfarfod â’r heddlu ac aelodau o’r gwasanaethau cudd yn dilyn yr ymosodiad, mae’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel wedi gofyn i bob heddlu adolygu eu trefniadau diogelwch ar gyfer aelodau seneddol ar unwaith.

Wrth drafod cyflwyno mesurau diogelwch ychwanegol i ddiogelu aelodau etholedig, mae Alun Michael wedi dweud wrth raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru ei bod hi’n bwysig cael cydbwysedd rhwng hynny a gallu’r aelod i ymwneud a chyfarfod â’r cyhoedd.

‘Caledu a pholareiddio’

Roedd Syr David Amess yn Aelod Seneddol cyn i Alun Michael gael ei ethol, ac “roedd o’n rhywun oedd yn dadlau pethau’n gryf, yn teimlo’n gryf am ei etholiad, ond hefyd yn parchu’r pethau oedd yn digwydd yn Nhŷ’r Cyffredin”, meddai.

“A dyna’r siom fawr, rydyn ni’n dadlau am ddiogelwch aelodau seneddol, ac Aelodau’r Senedd a chynghorwyr wrth gwrs, ond dw i’n tybio y bydd pobol yn anghofio am hyn yn gyflym iawn a mynd yn ôl i’r math o fygythiad sydd yn digwydd,” meddai wedyn.

Mae iaith y ddadl wleidyddol wedi “caledu”, meddai Alun Michael, ac mae’n bwysig edrych ar yr iaith sy’n cael ei defnyddio.

“Rydyn ni’n galw am roi casineb ar un ochr heddiw, mewn parch ac atgoffiad am David Amess, ond rhaid i ni newid iaith y ddadl wleidyddol yn gyffredinol,” meddai.

“Mae hwnna ddim jyst rhwng y pleidiau, mae hynny’n bwysig wrth gwrs, ond hefyd mae newyddiaduraeth wedi caledu a pholareiddio, ac mae effaith y social media, lle all pobol galedu’r syniadau a chymryd y safbwynt sydd ddim yn edrych ar y ffeithiau, mae hwnna’n broblem fawr.

“Mae social media yn rhywbeth sy’n rhoi cyfle i bobol ddadlau pethau, ond hefyd mae yna broblemau efo’r ffordd mae hwnna’n caledu safbwynt pobol.

“Dw i’n meddwl y bydd pobol yn gyflym iawn yn anghofio be’ sydd wedi digwydd, dim jyst gyda David Amess ond gyda Jo Cox a Stephen Timms a phobol eraill… ond rhaid i ni gadw hwnna yn y canol, a chofio bod pobol sy’n cael eu hethol i swydd – Aelodau Seneddol, Aelodau Senedd Cymru, cynghorwyr ledled y wlad – yn mynd allan o’u ffordd i drio gweithio ar gyfer yr etholwyr.

“Rhaid i ni gael mwy o barch i’r ffeithiau hynny.”

‘Cadw’r balans’

Mae gan aelodau etholedig yn y Deyrnas Unedig fwy o gyswllt ag etholwyr o gymharu â rhan fwya’r byd, meddai Alun Michael, ac mae’n “bwysig iawn” trio cadw hynny.

“Mae’n bwysig cadw’r balans.

“Fyswn i ddim yn licio, fel rhywun etholedig fy hun, mae’n bosib cwrdd â phobol ar y stryd, rhedeg surgeries, cael y fath yna o gysylltiad â phobol yn hawdd iawn.

“Mae pobol yn anghofio, i raddau, bod y cysylltiad rhwng y bobol sy’n etholedig ym Mhrydain yn llawer iawn mwy agored nag yn rhan fwyaf o’r byd, ac mae’n bwysig iawn i ni drio cadw hynna.

“Pethau fedrwn ni ei wneud, rydyn ni wedi cael cysylltiad gydag Aelodau Seneddol dros y penwythnos i edrych os ydyn nhw’n teimlo’n sâff, oes mwy fedra’r heddlu wneud i gydweithio gyda phobol i wneud siŵr eu bod nhw’n sâff.

“Ond fel dw i’n dweud, mae’r holl amgylchfyd o’r ddadl a chwestiwn o barch i’r rhai sy’n cael eu hethol yn bwysig iawn, a rhaid i ni edrych ar iaith y ddadl.”

Arestio dyn 76 oed ar amheuaeth o gyfathrebu’n faleisus â Chris Bryant

Daw’r bygythiad yn erbyn Aelod Seneddol y Rhondda yn dilyn marwolaeth Syr David Amess, yr aelod seneddol Ceidwadol o Southend

Aelod seneddol Torfaen yn datgelu bygythiadau i’w fywyd

Daw sylwadau Nick Thomas-Symonds wrth i aelodau seneddol gofio Syr David Amess, aelod seneddol o Southend

Teyrngedau lu yn cael eu rhoi i’r gwleidydd cyfeillgar a’r bonheddwr, Syr David Amess

Dyn 25 oed, Ali Harbinew, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio’r aelod seneddol