Mae dyn 76 oed o Bontycymer ger Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gyfathrebu’n faleisus ag aelod seneddol Llafur y Rhondda.

Daw hyn ar ôl i Chris Bryant dderbyn bygythiad i’w fywyd.

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 4.30 ddydd Sadwrn (Hydref 16), ac mae Chris Bryant yn dweud ei fod e wedi derbyn y bygythiad ar ôl gofyn i bobol fod yn fwy caredig yn dilyn llofruddiaeth Syr David Amess, aelod seneddol Ceidwadol yn Southend.

Mae Heddlu Llundain yn trin ei farwolaeth fel digwyddiad brawychol, ac mae dyn 25 oed, Ali Harbi Ali sy’n hanu o Somalia, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o’i lofruddio.

Mae gan yr heddlu tan ddydd Gwener (Hydref 22) i’w holi.

Mae lle i gredu ei fod e wedi bod yn rhan o gynllun gwrth-frawychiaeth Llywodraeth Prydain flynyddoedd yn ôl, ond na fu erioed dan amheuaeth gan MI5.

Mae’r heddlu wedi cael cais i adolygu diogelwch aelodau seneddol yn sgil y digwyddiad.

Sefyllfa “eithaf sur”

Wrth siarad â Press Association, dywed Chris Bryant fod gwleidyddiaeth Prydain yn fwy ymosodol ers rhai blynyddoedd.

“Mae’n eithaf sur,” meddai.

“Mae’n fwy sur nawr nag yr ydw i wedi’i weld ers 20 mlynedd.

“Mae rhai o’r dadleuon gwleidyddol wedi bod yn fileinig a siarp iawn, yn enwedig tros Brexit – er nad oes a wnelo hyn â Brexit ei hun – ac o ran hynny, y rhai sy’n gwrthwynebu brechlynnau ac ati.”

Dywed fod ei swyddfa wedi cael ei thargedu dros y flwyddyn ddiwethaf gan y garfan olaf honno, a bod graffiti’n dwyn y gair “bradwr” wedi’i baentio ar ei swyddfa y flwyddyn gynt.

Mae’n dweud y bu “llif cyson o gamdriniaeth erchyll” yn y cyfnod hwn.

“Dw i’n credu mai aelodau seneddol benywaidd, du ac o leifrifoedd ethnig a hoyw sy’n ei chael hi’n bennaf, ond mae pawb yn cael rhywfaint o hyn,” meddai.

 

Marwolaeth David Amess: Heddlu’n cyhoeddi digwyddiad terfysgol

Galwadau am fwy o fesurau i ddiogelu aelodau seneddol