Mae Heddlu Llundain wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i ddigwyddiad terfysgol ar ôl i’r Aelod Seneddol Syr David Amess gael ei drywanu’n farw ddoe (dydd Gwener 15 Hydref).

Roedd yr AS Torïaidd dros Orllewin Southend yn Essex yn cyfarfod etholwyr mewn capel yn ei etholaeth ar y pryd.

Mae’r ymchwiliad yn cael ei arwain gan blismyn gwrth-derfysgaeth, gyda dyn 25 oed a gafodd ei arestio ynglyn â’r digwyddiad ddoe yn dal yn y ddalfa.

Er bod yr heddlu’n credu iddo weithredu ar ei ben ei hun, ac nad ydyn nhw’n chwilio am neb arall ar hyn o bryd, mae’r ymchwilio i amgylchiadau’r digwyddiad yn parhau.

Yn ôl ffynonellau swyddogol, mae’r dyn yn ddinesydd Prydeinig o dras Somali, ac mae ymholiadau cychwynnol wedi awgrymu cyswllt posibl â therfysgaeth Islamaidd.

Dywed llygad-dystion ei fod ymysg grwp o bobl a oedd yn aros i weld Syr David Amess yn yr eglwys, a chychwynnodd ymosod arno gan gyrhaeddodd yr AS.

Mae gwleidyddion o bob plaid wedi talu teyrngedau i’r gwleidydd a wasanaethodd fel AS Torïaidd ers 38 mlynedd. Er yn ddigyfaddawd ei ddaliadau asgell dde, roedd yn hynod boblogaidd ac uchel ei barch fel unigolyn ymysg ei gyd-aelodau seneddol a’i etholwyr.

Adolygu trefniadau diogelwch

Ar ôl cyfarfod yr heddlu ac aelodau o’r gwasanaethau cudd yn dilyn yr ymosodiad, mae’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel wedi gofyn i bob heddlu adolygu eu trefniadau diogelwch i ASau ar unwaith.

Ymysg y gwleidyddion sydd wedi galw am fesurau diogelwch llymach i ASau, mae AS y Rhondda, Chris Bryant.

“Mae angen inni fod o ddifrif ynghylch diogelwch ASau y tu allan i adeiladau’r Senedd,” meddai, mewn colofn yn y Guardian.

“Mae plismyn lleol wedi bod yn wych am drin â bygythiadau o drais yn fy erbyn i, ond dw i’n gwybod nad yw hyn yn wir ymhobman.

“Mae rhai heddluoedd yn diystyru diogelwch ASau, neu ddim ond yn gwneud yr hyn sydd raid.

“Rhaid i hyn ddod i ben. Mae angen set ganolog o safonau’n ymwneud â diogelwch, a llawer mwy o gydweithio rhwng heddluoedd.”

Mae hefyd yn awgrymu y gall fod angen mynnu mai trwy apwyntiadau yn unig y gall etholwyr weld AS mewn cymorthfeydd.

“Does arnom ni ddim eisiau byw mewn ceyrydd,” meddai. “Ond does arna’ i ddim eisiau colli cydweithiwr arall mewn marwolaeth dreisgar.”