Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio i’r cyhoedd am unrhyw wybodaeth ynghylch ymosodiad difrifol ym mhentref Cil-maen – Monkton – ger Penfro ddydd Mercher (13 Hydref).

Cafodd yr heddlu eu galw i dy yn Tenby Court yno am 5.35 y bore, ac aed â dyn yn ei 40au i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Cafodd dyn 32 oed ei arestio yn y fan a’r lle, a’i gyhuddo ag ymosodiad Adran 18.

Ymddangosodd Nathaniel Nuttal o Gil-maen gerbron Llys Ynadon Llanelli fore ddoe (dydd Gwener 15 Hydref) a’i gadw yn y ddalfa i ymddangos nesaf ar 12 Tachwedd.

“Gofynnwn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu plismyn gyda’u hymchwiliadau ei riportio, naill ai ar-lein https://bit.ly/DPPContactOnline, trwy e-bostio 101@dyfed-powys.pnn.police.uk, neu ffonio 101,” meddai llefarydd ar y ran yr heddlu. Y cyfeirnod i’w nodi yw DP-20211013-024.