Mae ysgolhaig o Brifysgol Abertawe sy’n arbenigo ym maes effeithiau amgylcheddol ar iechyd wedi cael ei ddewis fel un o Hyrwyddwyr Aer Glân y Deyrnas Unedig.

Mae’r Athro Emeritws Paul Lewis o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol eisoes yn cynghori Llywodraeth Cymru ar dargedau gronynnau mân ar gyfer Deddf Aer Glân newydd i Gymru.

Yn ei rôl newydd, fe fydd yn ymuno â rhwydwaith o Hyrwyddwyr Aer Glân ledled Prydain ar gyfer Rhaglen Aer Glân y Deyrnas Unedig.

“Bydd y rôl yn fy ngalluogi i gydweithio i ddatblygu atebion a pholisïau newydd i leihau llygredd aer a’i effeithiau ar ein hiechyd a’n lles,” meddai.

Mae’r Rhaglen Aer Glân yn fuddsoddiad gwerth £42.5 miliwn sy’n cefnogi ymchwil i geisio atebion ymarferol i faterion ansawdd aer heddiw, ac i arfogi’r Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â heriau o’r fath yn y dyfodol.

Bydd yr Athro Lewis yn cydweithio gyda’i gyd-hyrwyddwyr mewn rhannau eraill o Brydain gan gyfnewid gwybodaeth ynghylch ymchwil perthnasol.