Mae’r Wladwriaeth Islamaidd wedi hawlio cyfrifoldeb am ymosodiad marwol gan hunan-fomwyr ar fosg Shiite yn ne Afghanistan a laddodd 47 o bobl ac anafu llawer mwy.

Mewn datganiad a gyhoeddwyd ar gyfryngau cymdeithasol, dywed y grwp o wrthryfelwyr fod dau o’u haelodau wedi saethu a lladd swyddogion diogelwch ger mynedfa’r mosg yn nhalaith Kandahar cyn tanio’u ffrwydron.

Daw’r ymosodiad wythnos ar ôl i 46 o bobl gael eu lladd mewn ymosodiad tebyg ar fosg yng ngogledd y wlad, gan arwain at ofnau fod y Wladwriaeth Islamaidd yn ennill tir yn y wlad.

Yr ymosodiad ddoe oedd yr un gwaethaf ers i luoedd America adael y wlad, a’r ymosodiad mawr cyntaf yn ne’r wlad.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd yn elynion i’r Taliban yn ogystal ag i’r Gorllewin, ac mae’r ymosodiadau’n codi cwestiynau ar allu’r Taliban i gynnal cyfraith a threfn yn y wlad.