Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi y bydd yn cyfrannu £29 miliwn ychwanegol o gymorth dyngarol i ogledd Ethiopia wrth i effaith rhyfela achosi trychineb cynyddol yno.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif fod 5.5 miliwn o bobl yn wynebu prinder bwyd, gyda 400,000 yn dioddef newyn gwirioneddol o ganlyniad i’r ymladd yn rhanbarth Tigray dros y flwyddyn ddiwethaf.

Wrth i’r gwrthdaro ymestyn i ranbarthau eraill, bydd Prydain yn cynyddu cyfanswm ei hymrwymiad cymorth i £75 miliwn.

“Mae pobl Ethiopia yn wynebu trychineb, ac maen nhw mewn angen brys am gymorth,” meddai Gweinidog Affrica Llywodraeth Prydain, Vicky Ford.

“Bydd yr addewid hwn yn darparu bwyd, dwr a gofal iechyd i gannoedd o filoedd o bobl sy’n wynebu newyn yng ngogledd Ethiopia.

“Dw i’n pwyso ar bob ochr i gytuno ar gadoediad ar frys i ganiatáu i gymorth dyngarol gyrraedd pobl Tigray.”

Dechreuodd yr anghydfod yng ngogledd Ethiopia bron i flwyddyn yn ôl, pan drôdd tensiynau rhwng y prif weinidog Abiy Ahmed a gwleidyddion rhanbarthol yn wrthdaro milwrol.

Mae’n debygol fod miloedd wedi marw o ganlyniad i’r gwrthdaro ac mae’r Cenhedloedd Unedig a grwpiau hawliau dynol rhyngwladol wedi cyhuddo’r ddwy ochr o gyflawni troseddau rhyfel.