Mae Llywodraeth yr Alban wedi gofyn am help y Fyddin i ddatrys prinder staff mewn dau o fyrddau iechyd y wlad.

Bydd cyfanswm o 86 o aelodau’r lluoedd arfog – yn nyrsys, meddygon, milwyr, gyrwyr a threfnwyr – yn cael eu hanfon i Fyrddau Iechyd Swydd Lanark a Gororau’r Alban ddydd Mawrth am o leiaf dair wythnos.

Dyma’r ddau fwrdd iechyd sydd â’r perfformiad gwaethaf yn yr Alban yn ôl data diweddaraf Iechyd Cyhoeddus yr Alban.

Daw hyn lai na mis ar ôl cais am gymorth gan y Fyddin i helpu gyrru ambiwlansys yr Alban wrth i brinder staff arwain at argyfwng mewn amseroedd aros yno.

Dywed Humza Yousaf, Gweinidog Iechyd yr Alban, mai’r pandemig coronafeirws sy’n gyfrifol am yr argyfwng.

“Ym myrddau iechyd y Gororau a Swydd Lanark, mae prinder staff oherwydd Covid-19 yn effeithio ar y nifer o gleifion y gellir eu trin, a gofynnwyd am gymorth miliwrol dros dro o’r herwydd,” meddai.

“Gyda graddau cynyddol o gymysgu cymdeithasol a chyswllt cymdeithasol agos, y disgwyl yw y bydd Covid-19 yn cylchredeg y gaeaf yma gan ychwanegu at y pwysau arferol ar y Gwasanaeth Iechyd.

“Bydd y cymorth milwrol yn galluogi’r ddau fwrdd i gefnogi’r staff presennol i leihau amserau aros, gwella gofal a chynnig gwell profiad i’n cleifion.

“Fel bob amser, hoffwn ddiolch i bawb sy’n ymwneud â’n systemau gofal iechyd am eu gwaith caled a’u hymroddiad parhaus dros y cyfnod eithriadol o brysur yma.”

Meddai’r Brigadydd Ben Wrench, pennaeth y lluoedd arfog yn yr Alban:

“Mae’r Lluoedd Arfog yn yr Alban, fel bob amser, yn sefyll yn barod i gefnogi cymdeithas sifil yn yr Alban a gweddill y Deyrnas Unedig.”