Mae petrol yn costio mwy nag mae wedi ei wneud ers naw mlynedd, yn ôl cymdeithas foduro’r RAC.

Bellach, mae litr o betrol bellach yn costio 140.22c ar gyfartaledd ym Mhrydain, ar ôl codi 26c y litr dros y flwyddyn ddiwethaf.

Gan ddadlau fod y cynnydd yn golygu bod gyrwyr yn talu 4c y litr yn fwy mewn treth ar werth na blwyddyn yn ôl, mae’r RAC yn galw am doriad yn y gyfradd.

“Mae ein data yn dangos nad yw pris petrol wedi bod cymaint â hyn ers mis Medi 2012, ac rydym yn bryderus o agos i’r cyfartaledd uchaf erioed o 142.48c y litr yn gynharach y flwyddyn honno,” meddai Simon Williams, llefarydd yr RAC ar danwydd.

“Rydym yn galw ar y Llywodraeth i weithredu ac ysgafnhau’r baich ar yrwyr.

“Mae’n wir bod cost olew wedi mwy na dyblu mewn blwyddyn, ond mae gyrwyr yn cael eu taro hefyd gan bron i 58c y litr mewn treth petrol a 23c mewn treth ar werth.”