Mae cynnig a gafodd y cyn-weinidog iechyd Matt Hancok am swydd ddi-dâl gan y Cenhedloedd Unedig wedi cael ei dynnu’n ôl.

Roedd wedi cyhoeddi’r wythnos yma iddo gael ei benodi’n gynrychiolydd arbennig i helpu gwledydd Affrica wella o’r pandemig Covid-19.

Bellach, mae’n ymddangos fod y Cenhedloedd Unedig wedi newid eu meddwl am y gweinidog a ymddiswyddodd dan gwmwl bedwar mis yn ôl. Roedd hyn ar ôl o gamera teledu cylch cyfyng ei ddal yn torri rheolau ymbelláu cymdeithasol wrth gusanu un o’i swyddogion y tu allan i’w swyddfa.

“Ni fydd penodiad Mr Hancock gan Gomisiwn Economaidd y Cenhedloedd Unedig dros Affrica yn mynd ymlaen, ac mae wedi cael gwybod hynny,” meddai llefarydd ar ran y Cenhedloedd Unedig.

Wrth groesawu’r penderfyniad, dywedodd Nick Dearden, cyfarwyddwr y grwp ymgyrchu Global Justice Now:

“Mae’n iawn fod y Cenhedloedd Unedig yn ailystyried y penodiad.

“Os oes ar Matt Hancock eisiau helpu gwledydd Affrica wella o’r pandemig, dylai lobïo’r Prif Weinidog i gefnogi dileu patentau ar frechlynau Covid-19.

“Pe bai wedi gwneud hynny pan oedd mewn llywodraeth, gallai degau o filiynau yn fwy o bobl fod wedi eu brechu eisoes ar hyd a lled y cyfandir.

“Y peth olaf mae ar gyfandir Affrica ei eisiau yw gwleidydd Prydeinig aflwyddiannus – nid y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw hi bellach.”