Mae dyn 25 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio wedi ôl i’r Aelod Seneddol Ceidwadol, David Amess, gael ei drywanu i farwolaeth.

Fe ymosodwyd ar y gŵr 69 oed wrth iddo gynnal cyfarfodydd syrjeri gyda’i etholwyr yn Eglwys Belfairs yn Leigh-on-Sea, sydd yn ei etholaeth, Gorllewin Southend.

Y tad i bump yw’r ail Aelod Seneddol i gael ei ladd dan y fath amgylchiadau o fewn pum mlynedd, wedi i’r AS Llafur Jo Cox gael ei lladd yn 2016 wrth gynnal syrjeri i’w hetholwyr.

Trywanu

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Essex bod swyddogion wedi cyrraedd y safle ychydig ar ôl 12:05yh ac wedi arestio dyn, a chanfod cyllell yn y cyffiniau.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu:

“Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i ddyn gael ei drywanu yn Leigh-on-Sea.

“Cawsom ein galw i gyfeiriad yn Eastwood Road North ychydig ar ôl 12.05pm heddiw.

“Fe wnaethon ni fynychu a chanfod dyn wedi’i anafu.

“Cafodd ei drin gan y gwasanaethau brys ond, yn anffodus, bu farw yn y fan a’r lle.”

Presenoldeb y gwasanaethau brys

Roedd un o weithwyr Jean’s Laundry, sy’n agos i Eglwys Belfairs, yn dweud ei bod hi ddim yn gwybod unrhyw beth am y sefyllfa ond ei bod hi wedi gweld cerbydau’r gwasanaeth brys yn mynd heibio.

“Fe welson ni’r holl heddlu a’r ambiwlansys yn troi i fyny, mae’n debyg bod hi tua hanner awr wedi deuddeg neu ychydig cyn hynny,” meddai wrth asiantaeth newyddion PA.

“Fe welais i tua dau neu dri ambiwlans ac yna car heddlu cudd a cheir heddlu eraill yn mynd heibio.

“Fel arfer mae yna bobl yn cerdded heibio, yr henoed yn cerdded i’r siopau. Does gennyn ni ddim syniad beth sy’n digwydd, dydy hi ddim yn brysur iawn ar ddydd Gwener a does neb wedi dod i mewn i siarad â ni amdano.”

Sylwadau Prif Weinidog Prydain

Canslwyd cyfarfod Cabinet yn sgil y newyddion a dychwelodd Boris Johnson i Rif 10 Stryd Downing.

Yn ddiweddarach, dywedodd Prif Weinidog Prydain: “Mae ein calonnau yn llawn sioc a thristwch heddiw ar golli Syr David Amess AS, a laddwyd yn ystod sesiwn etholaethol, mewn eglwys, ar ôl bron i 40 mlynedd o wasanaeth di-dor i bobl Essex a’r Deyrnas Unedig gyfan.

“Rwy’n credu mai’r rheswm y mae pobl wedi’u brawychu ac mor drist, yn fwy na dim, yw ei fod yn un o’r bobl fwyaf caredig, mwyaf dymunol, mwyaf addfwyn mewn gwleidyddiaeth.

“Roedd ganddo hefyd record eithriadol o basio deddfau i helpu’r rhai mwyaf agored i niwed, p’un a oeddent yn bobl a oedd yn dioddef o endometriosis, yn pasio cyfreithiau i roi terfyn ar greulondeb i anifeiliaid, neu’n gwneud llawer iawn i leihau’r tlodi tanwydd a ddioddefir gan bobl ar hyd a lled y wlad.

“Roedd David yn ddyn oedd yn credu’n angerddol yn y wlad hon ac yn ei dyfodol. Rydym wedi colli heddiw was cyhoeddus gwych a ffrind a chydweithiwr annwyl iawn, ac mae ein meddyliau heddiw gyda’i wraig, ei blant a’i deulu.”

Cydymdeimlad o Senedd Cymru

Mae’r holl faneri ar ystâd Senedd Cymru wedi cael eu gostwng i hanner mast yn dilyn marwolaeth David Amess.

Mewn datganiad, dywedodd y Llywydd y Senedd, Elin Jones, ei bod yn teimlo “tristwch mawr” yn sgil y farwolaeth.

“Mae ein proses ddemocrataidd yn dibynnu ar allu ein haelodau etholedig i wrando a siarad â’r cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu,” meddai.

“Dylai pob aelod etholedig allu gwneud y gwaith hwn yn ddiogel, heb ofn.

“Fel Aelodau, efallai bod gennym safbwyntiau gwahanol, ond rydym bob amser yn unedig yn ein parch at y broses ddemocrataidd a’n hymrwymiad i wasanaethu’r cyhoedd. Mae fy meddyliau gyda’i deulu, ffrindiau a chydweithwyr.”

Mae arweinyddion pleidiau Cymru wedi bod yn trydar eu cydymdeimlad.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ei fod yn “drist iawn” o glywed y newyddion.

A dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig fod Davis Amess wedi gwasanaethu “yn ffyddlon a chydag ymroddiad”.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ei fod wedi ei “dristáu”.