Mae sefydliadau ac ysgolion ledled Cymru wedi bod yn dathlu Diwrnod Shwmae Sumae heddiw, 15 Hydref.

Bwriad y diwrnod arbennig yw hybu’r syniad o siarad gyda phobol eraill yn Gymraeg – gan ddefnyddio’r cyfarchion i danio’r sgwrs – a dangos bod yr iaith yn perthyn i bawb.

Dyma yw’r wythfed tro i’r diwrnod gael ei gynnal ers cael ei sefydlu yn 2013 gan fudiadau Dathlu’r Gymraeg.

Gwlad y gân

Roedd nifer o ysgolion cynradd, sydd â Saesneg fel prif iaith, yn defnyddio’r diwrnod fel cyfle i rannu caneuon Cymraeg i blant.

Fe wnaeth cylch meithrin Ysgol Gynradd Holton yn y Barri ddysgu cân ‘Mr Hapus’ i’r plant, a’r symudiadau i gyd hefyd!

Coch, gwyn a gwyrdd

Roedd disgyblion Ysgol Gynradd Cwmbach yn Aberdâr wedi dod i’r ysgol yn lliwiau Cymru, gydag ambell i grys pêl-droed a gwisg hen fenyw Gymreig yn dod o gefn y wardrob.

Efallai gall hwn ddod yn ail ddiwrnod cenedlaethol i Gymru!

Paned am ddim

Fe wnaeth Prifysgol Aberystwyth ddangos bod yna fudd ariannol o siarad yr iaith hefyd, gan gynnig diodydd poeth am ddim i “bawb sy’n dweud ‘Shwmae Su’mae’ wrth archebu.”

“Un gair bach”

Roedd Gweinidog y Gymraeg Jeremy Miles hefyd yn gyfarchion i gyd ar Twitter, gan ddechrau ei araith ei hun yn syml gyda ‘shwmae?’.

“Gyda’n gilydd, ry’n ni’n gallu helpu i gynyddu’r defnydd o’r iaith drwy ddechrau sgyrsiau yn y Gymraeg bob dydd,” meddai.

“Mae’n hawdd ac mae’n bwysig, ac mae’n gyfle i greu cysylltiad.

“Os ydyn nhw’n siarad Cymraeg neu beidio, mae cychwyn sgwrs gyda ‘shwmae?’ cyfeillgar yn ffordd wych o rannu ein hiaith, ein hunaniaeth gyfrannol, a’n diwylliant – i gyd mewn un gair bach.

“Felly beth am fynd amdani heddiw?”