Bydd penderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd i gau Ysgol Abersoch yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Addysg ac Economi’r Cyngor.
Fe fydd y Pwyllgor yn ystyried y penderfyniad mewn cyfarfod ddydd Iau nesaf, 21 Hydref.
Bythefnos yn ôl, fe wnaeth Cabinet Cyngor Gwynedd gymeradwyo cynnig i gau Ysgol Abersoch a 31 Rhagfyr 2021.
Roedd yr Adran Addysg wedi mynegi pryderon ynglŷn â niferoedd isel yr ysgol, gyda 76% o gapasiti’r ysgol yn wag.
Yn ogystal, fe wnaethon nhw sôn am gostau cynyddol ei chynnal, gyda phob disgybl yn costio oddeutu £17,404 yr un, o’i gymharu â chyfartaledd y sir o £4,198.
O ganlyniad i gau’r ysgol, bydd y deg disgybl yn cael lle yn Ysgol Sarn Bach yn y pentref cyfagos o fis Ionawr, ac mae’r awdurdod yn paratoi i wella’r adnoddau cludiant a dysgu yno erbyn hynny.
“Adfywio’r gymuned”
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r cyhoeddi bod y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi Cyngor Gwynedd am ystyried y penderfyniad.
“Croesawn yn fawr y bydd cyfle i ailedrych ar ddyfodol Ysgol Abersoch,” meddai llefarydd ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.
“Ein gobaith yw y bydd y Cyngor yn awr yn gweld dyfodol yr ysgol yng nghyd-destun adfeddiannu ac adfywio’r gymuned leol.
“Gofynnwn i’r Pwyllgor Craffu wahodd cynrychiolwyr o blith llywodraethwyr yr ysgol i’w hannerch am eu cynlluniau cyffrous ar gyfer dyfodol yr ysgol, a gofynnwn i’r Pwyllgor argymell fod y Cabinet yn ailystyried cydweithio gyda’r partneriaid lleol brwd hyn yn hytrach na chefnu ar gymuned leol sydd mewn angen.”
Disgrifiodd Cymdeithas yr Iaith y penderfyniad i gau’r ysgol fel “brad” ar y gymuned, gan ddweud bod y Cyngor yn “tanseilio eu polisïau tai ac iaith eu hunain”.
Ar y pryd, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd “nad peth hawdd” ydi penderfynu cau unrhyw ysgol, ond bod “dyletswydd ar y Cyngor i sicrhau ei fod yn cynnig yr addysg a phrofiadau ynghyd a’r amgylchedd dysgu gorau posib i’n plant”.