Mae’r gwasanaeth Profi ac Olrhain yn gofyn i rai pobol sydd wedi cael prawf Covid-19 negatif ers 4 Hydref i gael prawf arall.

Daw hyn ar ôl i labordy gwirio profion yn Lloegr roi canlyniadau prawf anghywir i bobol oherwydd “problemau technegol.”

Roedd pryderon wedi codi ar ôl i bobol gael canlyniadau profion PCR negatif yn syth ar ôl cael canlyniadau profion llif unffordd positif.

Mae’n debyg bod tua 4,000 o bobol yng Nghymru wedi eu heffeithio gan hyn yn ôl Llywodraeth Cymru, a tua 39,000 o bobol yn Lloegr.

Roedd y mwyafrif o’r canlyniadau diffygiol yng Nghymru wedi eu rhoi i bobol yn ardaloedd byrddau iechyd Gwent a Chwm Taf Morgannwg rhwng 8 Medi a 12 Hydref.

Yn dilyn y gwallau, mae profi yn y labordy yn Wolverhampton wedi cael ei ohirio am y tro, tra’u bod nhw dan ymchwiliad.

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn annog pobol i brofi eu hunain eto, yn cynnwys cysylltiadau agos sy’n dangos symptomau, a phawb sydd wedi cael prawf wedi ei brosesu yn y labordy rhwng 8 Medi a 4 Hydref.

Y labordy ar safle Prifysgol Wolverhampton. Llun: Google Maps.

Ymateb y Gweinidog Iechyd

Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan gadarnhau bod y broblem yn eithriadol, ac mai dim ond y labordy yn Wolverhampton sydd wedi effeithio ar y profion.

“Fy mhryder uniongyrchol yw’r wybodaeth a’r cymorth i drigolion Cymru yr effeithir arnynt,” meddai.

“Rwyf wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddarparu cymorth a chyngor ychwanegol i’r byrddau iechyd yr effeithir arnynt yn ychwanegol at negeseuon cyfathrebu UKHSA.

“Byddant hefyd yn asesu effaith bosibl y digwyddiad hwn ar gyfraddau achosion ac adroddiadau epidemioleg i Gymru.

“Byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag UKHSA a gwasanaeth Profi ac Olrhain y Gwasanaeth Iechyd ar y canfyddiadau a’r camau gweithredu sydd eu hangen a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am ddatblygiadau.”