Mae’r gwaith o ddymchwel tai yn un o strydoedd mwyar gwenwynig gwledydd Prydain wedi cychwyn ger tref Crymlyn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Fe gafwyd y lefelau uchaf o nitrogen dioxide ym Mhrydain – y tu allan i ddinas Llundain – yn Ffordd Hafodyrynys ger Crymlyn.

Gall lefelau uchel o’r nwy nitrogen dioxide achosi asthma a phroblemau anadlu.

Fe ddechreuodd y gwaith o ddymchwel 23 o dai yno ddoe, dydd Iau, 14 Hydref.

Y gobaith yw bod chwalu’r tai yn arwain at wella ansawdd yr aer yn yr ardal, lle’r oedd llygredd aer yn cael ei ddal rhwng y tai a’r coed gyferbyn, gyda lôn brysur rhwng y ddau.

“Gwella bywydau llawer o bobol”

Mi fydd dymchwel y tai yn “gwella bywydau llawer o bobol” meddai Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Roedd y cyngor wedi cytuno i brynu’r tai preifat gan y perchnogion yn Hafodyrynys am 50% yn fwy na’u gwerth ar y farchnad dai yn 2019, a hynny er mwyn gallu cydymffurfio gyda rheolau aer glân.

Mae disgwyl i’r gwaith o ddymchwel y tai gymryd 14 wythnos.

Bu’r cyngor yn ceisio datrys y broblem ers 2009.