Mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio mwy o gwmnïau lleol i ddarparu nwyddau a chyflawni gwaith yn ddiweddar, yn ôl adroddiad newydd.
Yn 2020/21, roedd y Cyngor wedi gwario £78 miliwn ar nwyddau a chytundebau o fewn Gwynedd, a oedd yn gynnydd ar y £56 miliwn a gafodd ei wario yn 2017/18.
Roedd yr adroddiad i’r Pwyllgor Archwilio hefyd yn nodi bod yr awdurdod lleol wedi bod yn fwy llym wrth roi gwaith i gwmnïau preifat, gan fynnu bod staff lleol yn cael eu cyflogi.
Mae cyfyngiadau cenedlaethol yn rhwystro cynghorau rhag gorwario ar gytundebau, ond mae Cyngor Gwynedd yn gwneud y mwyaf o’r grymoedd sydd ganddyn nhw, drwy gynnig cytundebau i gwmnïau yn seiliedig ar y buddion i’r bobol a’r economi leol.
Pwyso a mesur
“Gan ddefnyddio’r cymal Budd Cymdeithasol, bydd cwmnïau lleol yn cael cyfle i ddangos eu cyfraniad i’r economi leol os ydyn nhw’n cael contract gan y Cyngor,” meddai’r cyngor yn yr adroddiad.
“Mae’r cynllun peilot bellach wedi cyrraedd pwynt lle mae’r contract cyntaf wedi’i gynnig i gyflenwr gan ddefnyddio’r fethodoleg newydd. Yn yr achos hwn, roedd gwerth y contract yn £181,000, ond roedd y budd cymdeithasol i Wynedd yn £105,000.
“O ganlyniad, mae’r cwmni buddugol wedi ymrwymo i gyflogi tri swyddog sy’n byw yng Ngwynedd, cynnal pedair sesiwn hyfforddi ar gyfer myfyrwyr gofal cymdeithasol, darparu pedair wythnos o brofiad gwaith i ddau fyfyriwr, cynnig gwerth 20 awr o amser gwirfoddol i gefnogi elusennau lleol, ac maen nhw wedi ymrwymo i 2.5 awr yr wythnos i ddatblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu ymhellach.
“Heb amheuaeth, pe na bai’r Cyngor wedi cynnwys y cymal Budd Cymdeithasol yn y tendr, fyddai’r buddion hyn ddim wedi bod ar gael i Wynedd.”
Galw am arian
Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth iddyn nhw i gyfro costau ychwanegol yn deillio o’r pandemig Covid-19.
Mae swyddogion yr awdurdod wedi amcangyfrif bod costau’r pandemig yn £20 miliwn yn 2020/21, a £5.6 miliwn hyd yn hyn yn 2021/22.
Fe wnaeth y Llywodraeth gyhoeddi eleni y byddai £206 miliwn ar gael i gynghorau sir allu cyrraedd y costau ychwanegol neu golledion a gafodd eu hachosi gan y cyfnod clo.
Ansicrwydd
Rhybuddiodd Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, bod yr ansicrwydd ynglŷn â’r gronfa caledi yn achosi problemau.
“Mae gen i bryderon ynghylch dyfodol y gronfa, rydyn ni wedi elwa yn ystod y flwyddyn i gwrdd â gwariant na fydden ni erioed wedi gallu cyfarch ein hunain,” meddai.
“Ond ar hyn o bryd does dim gwybodaeth am gyllid tebyg ar gyfer y flwyddyn nesaf.”
“Byddaf yn cymryd pob cyfle i lobïo’r Llywodraeth, gan fod meysydd fel digartrefedd wedi arwain at symiau sy’n dod â dŵr i’r llygaid ac yn parhau i’n hwynebu i’r flwyddyn nesaf gan nad ydyn ni wedi gallu ail-gartrefu pawb.
“Bydd angen cefnogaeth debyg arnon ni flwyddyn nesaf neu byddwn ni mewn sefyllfa ariannol anodd.”
Er bod y rhan fwyaf o feysydd wedi cael hi’n anodd yn ystod y pandemig, gofal cymdeithasol i oedolion a gwasanaethau priffyrdd a bwrdeistrefol sydd wedi gweld y colledion mwyaf, meddai.