Mae’r Senedd wedi datgan cefnogaeth unfrydol tuag at alwadau am ddeddfwriaeth fyddai’n gorfodi datblygwyr prosiectau ynni i egluro syt fyddai cymunedau yn elwa.

Cafodd y cynnig ei basio ar ôl derbyn cefnogaeth drawsbleidiol, a bydd yn rhoi pwysau ar y Llywodraeth i orfodi datblygwyr i lunio asesiadau o effaith prosiectau ar gymunedau, a chyflwyno cynlluniau manteision cymunedol fel rhan o’r broses gynllunio.

Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, fu wrth wraidd y galwadau, o ganlyniad i bryderon cymunedol ar yr ynys yn sgil nifer o geisiadau cynllunio i ddatblygu ffermydd solar.

“Mae penderfyniadau diweddar gan Lywodraeth Cymru i glustnodi rhannau mawr o Ynys Môn fel safle datblygu solar wedi cynnig cyfleoedd i gwmnïau mawr rhyngwladol gael llwybr haws tuag at gael caniatâd i greu ffermydd anferth,” meddai wrth y Senedd.

“Mae’n bosib gweld y canlyniadau yn barod, mae’n frawychus pa mor sydyn mae pethau wedi digwydd.

“Mae Enso Energy wedi cyhoeddi cynlluniau am fferm solar 750 erw; mae gan Lightsource BP gynlluniau i gynhyrchu ynni solar 350 mega wat sy’n ymestyn dros 2,000 erw; mae’r cwmni Low Carbon wedi adnabod 150 erw ar gyfer fferm solar Traffwll; mae EDF wedi prynu safle 190 erw gyda chaniatâd ar gyfer fferm solar yng ngogledd yr ynys, ac mae hynny ar ben y cynlluniau sydd wedi cael eu datblygu’n barod.

“Rydyn ni’n siarad yn fan hyn am ardaloedd anferth o dir, gan gynnwys, wrth gwrs, Môn Mam Cymru, tir amaethyddol da, ac rydyn ni’n siarad am gymunedau o amgylch ac o fewn yr ardaloedd hynny.”

“Ymdrech sarhaus”

Yn sgil graddfa’r datblygiadau arfaethedig – sy’n Ddatblygiadau o Bwys Cenedlaethol – swyddogion cynllunio Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud penderfyniadau yn eu cylch yn hytrach na chynghorwyr etholedig yr ynys.

Ychwanegodd Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, y gallai Ynys Môn wneud “cyfraniad mawr” i ddatblygiadau ynni solar, ond fe wnaeth ailadrodd pryderon sydd wedi’u codi gan ddaliwr portffolio’r cyngor dros ddatblygiadau economaidd, sef y gallai rhoi caniatâd i’r fath gynlluniau “adael ôl troed anferth ar rannau o Gymru wledig gydag ychydig iawn o fanteision i’r cymunedau hynny”.

“Beth mae’r datblygwyr yn honni yw’r manteision lleol? Mae gwefan EDF yn dweud y bydd £10,000 yn cael ei dalu fel budd cymunedol bob blwyddyn – dim ond £10,000.

“Nawr, mae datblygwyr fferm Alaw Môn yn gwahodd cynlluniau am brosiectau cynaliadwy yn yr ardal, maen nhw hefyd yn addo y bydd eu cynllun yn cynnig cyfleoedd i roi gorffwys i dir sydd wedi cael ei ffarmio’n helaeth.

“Dw i’n meddwl bod hynny’n ymdrech sarhaus i drio rhoi gwedd well ar golli tir amaethyddol.”

Gan gyfeirio at y posibilrwydd o ddefnyddio toeau mwy o adeiladau – neu hyd yn oed awgrym un etholwr ynghylch defnyddio darn canol yr A55 ar gyfer gosod mwy o baneli – gorffennodd gan ddweud: “Drwy fod yn greadigol, dw i’n meddwl y gallwn ni gynhyrchu ynni ar raddfa fawr iawn drwy weithio gyda, yn hytrach nag yn erbyn, cymunedau.”

Dywedodd yr Aelod Ceidwadol dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders, bod pryderon tebyg ar hyd arfordir gogledd Cymru, diolch i gyfres o “brosiectau ffermydd gwynt anferth sy’n dod tuag atom”.

Ychwanegodd: “Rydyn ni angen ynni adnewyddadwy, ond dw i’n erfyn ar Lywodraeth Cymru, a’r Gweinidog, i sicrhau bod unrhyw gynlluniau adnewyddadwy newydd, bod yna cydbwysedd cwbl iach gydag ein hymdrechion [i sicrhau] bioamrywiaeth a chadwraeth.”

“Cymuned”

Siaradodd yr Aelod Llafur o’r Senedd, Alun Davies, am yr angen i “roi’r gair ‘cymuned’ yn ôl yn ein polisi cynllunio,” gan ychwanegu: “Yr hyn hoffwn i weld Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio arno yw dosbarthu cynhyrchu; pwyslais ar beth all cymuned ei wneud er mwyn cynhyrchu, ar gyfer ei hanghenion ei hun ac ar gyfer anghenion yr ardal leol.”

Mae cwmni Low Carbon wedi cyfeirio at fudiannau eu cynllun arfaethedig, gan ddweud y byddai’n chwarae rôl drwy ddatgarboneiddio economi Cymru wrth gynnig gwelliannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol hefyd.

“Bydd buddiannau economaidd yn cynnwys creu swyddi dros dro, cefnogi cadwyni cyflenwi lleol yn ystod y cyfnod adeiladu a chefnogi cynhyrchiant ynni carbon isel heb ei ganoli ar Ynys Môn fel rhan o dwf allweddol y sector,” ychwanegodd y cwmni.

Ar ôl i’r bleidlais dderbyn cefnogaeth unfrydol gan y Senedd, gan gynnwys gan y Llywodraeth, dywedodd Mr ap Iorwerth y dylai bod disgwyl i ddatblygwyr allanol “wirioneddol rannu elwon gyda’r cymunedau”.

Gorffennodd drwy ddweud: “Mae hyn yn sicr yn cryfhau’r ddadl dros sicrhau bod anghenion a phryderon cymunedau yn cael eu rhoi wrth wraidd penderfyniadau ar brosiectau ynni, a bod rhaid i’r cymunedau fanteisio.”

“Cyflymu”

Aeth Lee Waters, y dirprwy weinidog newid hinsawdd, ymlaen i awgrymu bod y Llywodraeth yn edrych ar y potensial o sefydlu cwmni ynni dan berchnogaeth gyhoeddus, “er mwyn cyflymu sefydlu [prosiectau] adnewyddadwy a fydd yn cynnig mantais fwy i gymunedau nag mae’r model presennol yn ei gynnig.”

“Er mwyn cyrraedd net-sero, rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n mynd i orfod gwneud mwy o doriadau i’n hallyriadau yn y ddeng mlynedd nesaf o gymharu â’r hyn wnaethom ni dros y 30 diwethaf, a bod rhaid i’r raddfa a’r cyflymder gyflymu yn y blynyddoedd wedi hynny.

“Felly, mae’n hollbwysig i ni weithredu ar raddfa, ar gyflymder, ond hefyd rydyn ni angen dod â chymunedau gyda ni, ac rydyn ni angen bod yn ymwybodol o effeithiau eraill y datblygiadau hyn.”

Dylai elw ynni Cymru gael ei ddychwelyd i Gymru, medd Plaid Cymru

‘Boed yn Ystâd y Goron neu’n cynhyrchu ynni lleol, Cymru, ein pobl, ein cymunedau a’n hawdurdodau etholedig a ddylai reoli ein hadnoddau’