Dylai dulliau cynhyrchu ynni fod dan reolaeth Cymru, yn ôl un o aelodau’r Senedd Plaid Cymru.

Mewn dadl yn y Senedd, dywedodd Peredur Owen Griffiths y dylid dychwelyd elw ynni Cymru i Gymru.

Yn ôl yr Aelod o’r Senedd dros ranbarth Dwyrain De Cymru, ni ddylai cynhyrchu ynni, a’r elw sy’n dod ohono, “fod yn nwylo cwmnïau rhyngwladol tramor mawr nac, yn wir, yn nwylo ein cymdogion dros y ffin”.

Fe wnaeth Peredur Owen Griffiths amlinellu’r hyn sydd ei angen i brosiectau ynni cymunedol bach allu ffynnu hefyd, gan ddweud bod y sector ynni eisiau rheolaeth ddemocrataidd bellach dros y broses gynhyrchu.

Cafodd y sylwadau eu gwneud yn ystod dadl yn y Senedd ynghylch cynhyrchu egni a’r argyfwng hinsawdd.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw’n dechrau ar waith ymchwil “manwl iawn” ar ynni adnewyddadwy, gan “ganolbwyntio ar gadw cyfoeth a pherchnogaeth yng Nghymru”.

“Rheolaeth ddemocrataidd”

“Mae’r sector (ynni) wedi gofyn am fynediad at gymorth, adnoddau a chyllid angenrheidiol. At hynny, maent wedi gofyn am alluoedd pellach i gynhyrchwyr werthu eu hynni’n lleol, boed hynny drwy ofynion caffael ar gyrff cyhoeddus neu well capasiti grid,” meddai Peredur Owen Griffiths.

“Mae asedau’n faes craidd arall i’w ystyried, yn ogystal â mynediad i dir ac adeiladau i’w datblygu, ac mae’r sector am weld Llywodraeth Cymru yn hwyluso ac yn cefnogi rheolaeth ddemocrataidd bellach dros asedau o’r fath.

“Maen nhw hefyd eisiau rheolaeth ddemocrataidd bellach dros y broses, fel datblygu cynlluniau datgarboneiddio a dulliau o ymchwilio a thrafod drwy gynulliadau dinasyddion, gan roi cymunedau wrth wraidd yr adferiad gwyrdd.”

Ychwanegodd bod hyn yn ymwneud ag “un o ddadleuon canolog” Plaid Cymru, sef cael “rheolaeth ddemocrataidd dros ein hadnoddau ein hunain”.

“Boed yn Ystâd y Goron neu’n cynhyrchu ynni lleol, Cymru, ein pobl, ein cymunedau a’n hawdurdodau etholedig a ddylai reoli ein hadnoddau ac, yn y pen draw, sylweddoli ar y manteision.

“Ni ddylai ein cynhyrchu ynni, a’r elw sy’n deillio ohono, fod yn nwylo cwmnïau rhyngwladol tramor mawr nac, yn wir, yn nwylo ein cymdogion dros y ffin.”

Gwaith ymchwil

Mae Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, Lee Waters, wedi cyhoeddi ddoe (14 Hydref) ei fod wedi dechrau gwaith ymchwil “manwl iawn” ar ynni adnewyddadwy.

Bydd y gwaith ymchwil yn cynnwys grŵp craidd bach o arbenigwyr o’r sector a’r tu allan, a diben yr ymarfer yw nodi’r cyfleoedd er mwyn cynyddu cynhyrchu adnewyddadwy’n sylweddol, ystyried y rhwystrau a’r camau sydd angen eu cymryd i’w goresgyn.

Bydden nhw’n edrych ar gamau tymor byw, canolig a hir, ac yn “canolbwyntio ar gadw cyfoeth a pherchnogaeth yng Nghymru”.

“Fel Senedd, mae gennym ymrwymiad a rennir i ddatgarboneiddio ac rydym wedi gosod targedau sero-net sy’n dangos sut y gall Cymru arwain y ffordd ar yr her fyd-eang sy’n ein hwynebu,” meddai Lee Waters AoS.

“Rhaid i’n huchelgeisiau gael eu llywio gan gynyddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac rwyf wedi ymrwymo i sefydlu Cymru fel arweinydd yn y maes hwn.

“Rhagwelir y bydd canlyniadau cynnar y trafodaethau yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Senedd cyn gwyliau’r Nadolig mewn Datganiad Llafar.

“Fy mwriad yw y bydd y datganiad hwn yn cael ei gefnogi gan gynllun gweithredu yn nodi’r ffordd orau o oresgyn y materion a nodwyd.”