Mae’r heddlu eisiau siarad ag unrhyw un sydd â chofnod ffilm o’r cyfnod cyn y ddamwain yn Llanelli a arweiniodd at farwolaeth merch fach.

Bu farw Eva Maria Nichifor, oedd yn chwe mis oed, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng BMW cyfres 3 glas a Vauxhall Vectra glas ar groesffordd Heol Goffa tua 9 nos Wener, 8 Hydref.

Ymddangosodd dynes lleol 23 oed o flaen Llys Ynadon Llanelli ddydd Llun (11 Hydref) ar gyhuddiad o ladd Eva Maria Nichifor drwy yrru’n beryglus a gyrru dan ddylanwad alcohol.

Nawr, mae’r heddlu yn apelio ar drigolion a busnesau’r ardal i roi gwybod os oes ganddyn nhw fideo CCTV, neu gamerâu ar eu clychau drws, o faes parcio Eastgate (ger Travelodge, Nando’s Lextan ac ati), Stryd Andrew neu o Corporation Avenue ger yr orsaf dân.

Mae Heddu Dyfed-Powys hefyd yn gofyn i yrwyr oedd yn yr ardal rhwng 8:40yh a 9yh ar noson y gwrthdrawiad, ac sydd gan gofnod dashcam, gysylltu â nhw.

Dylai unrhyw un sydd gan fideo, lluniau neu wybodaeth a allai helpu’r heddlu gyda’r ymchwiliad gysylltu â nhw cyn gynted a phosib.

Teyrnged rhieni i “ferch fach berffaith” laddwyd mewn gwrthdrawiad yn Llanelli

“Hi oedd ein gwyrth, ein merch fach berffaith, rhodd gan Dduw”