Mae Llywodraeth Cymru wedi newid eu meddlyliau ynglŷn â chynlluniau i gyflwyno peiriannau osôn mewn ysgolion.
Bydd y £3.31 miliwn oedd i fod i gael ei ddefnyddio ar gyfer y cynllun nawr yn cael ei wario ar wella awyru mewn dosbarthiadau, colegau a neuaddau darlithio, meddai’r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles.
Bwriad y cynllun oedd lleihau’r risg o ledaenu Covid-19, ond penderfynodd Llywodraeth Cymru drafod ag arbenigwyr cyn prynu’r peiriannau ar ôl i gwestiynau godi ynghylch eu heffeithlonrwydd a pha mor ddiogel ydyn nhw.
Roedd Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ailedrych ar y cynllun.
Dywedodd y Ceidwadwyr eu bod nhw’n croesawu’r cyhoeddiad, gan ei fod yn “hanfodol” i gadw plant yn ddiogel.
Gwella dulliau awyru
Daw’r cyhoeddiad hwn wrth i beiriannau monitro CO2 newydd ddechrau cael eu cyflwyno mewn lleoliadau addysgol ledled Cymru’r wythnos hon.
“Mae wedi bod yn dda gweld plant yn ôl yn yr ysgol y tymor hwn,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog Addysg Cymru.
“Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig y mae hi o ran eu lles iddyn nhw allu bod yn yr ysgol gyda’u ffrindiau a’u hathrawon.
“Ac rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod yr ystafelloedd dosbarth yn fannau diogel i ddisgyblion ddysgu ynddyn nhw.
“Bydd y buddsoddiad hwn ar gyfer gwella dulliau awyru, ynghyd â chyflwyno peiriannau monitro CO2, yn helpu i gadw cyfraddau trosglwyddo’r feirws yn isel.
“Ond mae’n dal yn bwysig iawn ein bod ni i gyd yn gwneud ein rhan i leihau lledaeniad Covid-19 – ac mae hynny’n cynnwys golchi dwylo’n rheolaidd a chadw pellter os gallwn.”
“Diolch am wrando”
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, diolchodd Dr Eilir Hughes i Jeremy Miles am wrando ar bryderon.
“Fe wnes i alw am anghofio am y cynllun ar gyfer defnyddio peiriannau osôn, ac i’r arian gael ei ddefnyddio i awyru ysgolion Cymru’n well,” meddai Dr Eilir Hughes ar Twitter.
“Heddiw, fe wnaeth Llywodraeth Cymru wneud hynny’n union!”
I called for plan to use ozone machines to be scrapped, and for the money instead to be directed towards better ventilation in Welsh schools.
Today Welsh Government has done exactly that! ???
Thanks for listening @wgmin_education ?
https://t.co/JE96A7BdAm— Dr Eilir Hughes (@hughes_eilir) October 14, 2021
Dywedodd Gweinidog Cysgodol dros Addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Laura Anne Jones: “Rydyn ni’n croesawu’r tro pedol diweddaraf hwn gan weinidogion Llafur gan ei fod yn hanfodol ein bod ni’n diogelu plant wrth osgoi rhagor o amharu ar eu haddysg.
“Mae awyru’n hanfodol i frwydro coronafeirws, ond dyw’r arian hwn ond ar gael oherwydd bod Llafur wedi troi eu cefnau ar eu cynllun dadleuol i gyflwyno peiriannau osôn a oedd yn cynnwys chwistrellu dosbarthiadau â chemegau gwenwynig.
“Ni allai arbenigwyr a meddygon ddeall pam bod gweinidogion Llafur yn buddsoddi yn y peiriannau hyn yn hytrach na systemau awyru gwell, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynegi pryder gwirionedd dros y cynlluniau ers y dechrau.
“Rhaid i addysgu pobol ifanc a’u cadw nhw’n ddiogel fod yn flaenoriaeth, ac mae’r tro pedol heddiw’n dangos bod hwn yn bolisi arall na chafodd ei ystyried yn iawn gan Lafur er mwyn trio cael pennawd newyddion.”