Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldiroedd Cymru wedi derbyn grant o £3.1 miliwn gan y Loteri Genedlaethol.
Bydd yr arian yn rhoi hwb i gynlluniau’r rheilffyrdd i ddenu mwy o ymwelwyr drwy ddarparu “profiad twristiaeth o ansawdd uchel”, a chyfleoedd gwaith, hyfforddiant a gwirfoddoli i gymuned Porthmadog.
Fe fydd yr arian yn talu am y gwaith o adfer a gwarchod adeiladau’r rheilffordd, gan gynnwys Gwaith Boston Lodge, Porthmadog – sydd yn y Guiness Book of Records fel y ‘gweithdy rheilffordd hynaf mewn gweithrediad parhaus’.
Bydd £900,000 ychwanegol yn cael ei roi i’r prosiect tair blynedd a hanner hefyd, a dylai ddenu hyd at 250,000 o ymwelwyr i’r rheilffyrdd bob blwyddyn unwaith y bydd wedi’i gwblhau.
Y rheilffyrdd
Yn eu hanterth, roedd y rheilffyrdd yn ganolbwynt i’r farchnad fyd-eang am lechi Cymru ac yn gwasanaethu’r chwarel lechi danddaearol fwyaf yn y byd – chwarel yr Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog.
Heddiw, mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldiroedd Cymru, a ddaeth yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO gogledd orllewin Cymru ym mis Gorffennaf, yn denu hyd at 200,000 o ymwelwyr y flwyddyn.
Wedi’i adeiladu rhwng 1833 a 1836, roedd Rheilffordd Ffestiniog yn cario llechi o fwyngloddiau llechi Blaenau Ffestiniog 13.5 milltir i borthladd ym Mhorthmadog a’u cludo ar draws y byd.
Cariodd Rheilffordd Ffestiniog ei llwyth olaf yn 1946, ac yn 1954 dechreuodd gwirfoddolwyr ddod â’r rheilffordd a Gwaith Boston Lodge yn ôl yn fyw.
Mae rheilffordd Ucheldir Cymru yn cludo theithwyr ar y daith 25 milltir o Gaernarfon i Borthmadog.
Adferwyd Rheilffordd Ucheldir Cymru yn y 1990au, a chrëwyd Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru.
“Rheilffordd Gymreig”
Wrth sôn am brosiect Gwaith Boston Lodge, dywedodd Paul Lewin, Cyfarwyddwr a Rheolwr Cyffredinol Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldiroedd Cymru: “Rydym yn rheilffordd Gymreig ac mae ein hanes wedi’i gydblethu ers 200 mlynedd gyda’r gymuned leol.
“Rydym am adeiladu ar y cysylltiadau presennol hynny fel y gall y gymuned leol ymfalchïo yn nhreftadaeth Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru a Boston Lodge a bod yn rhan ohonynt.
“Drwy ein prosiect, rydym am gasglu ein straeon a sicrhau eu bod yn cael eu rhannu â chenedlaethau’r dyfodol a’n bod yn parhau i chwarae ein rhan yn economi a llwyddiant gogledd Cymru.
“Mae ein rheilffordd wedi goroesi drwy addasu a chroesawu technoleg a diolch i’r buddsoddiad hwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, byddwn yn gwneud hynny eto nawr i sicrhau ein bod yn cynnig profiad twristiaeth o ansawdd uchel sy’n dod â budd gwirioneddol i economi Gogledd Cymru.”
“Llunio gan y gorffennol”
Bydd y buddsoddiad yn caniatáu i’r Rheilffyrdd ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i’r gymuned leol, meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.
“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y buddsoddiad hwn o £3.1 miliwn yn caniatáu i Reilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru – atyniad gwirioneddol o’r radd flaenaf, o ansawdd uchel, ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i’r gymuned leol a rhoi hwb i economi gogledd orllewin Cymru drwy ddod â 50,000 o ymwelwyr ychwanegol i’r ardal bob blwyddyn,” meddai.
“Yn ogystal â’r manteision economaidd a chyflogaeth niferus o Reilffyrdd Ffestiniog a Chymru, mae’r prosiect hwn sy’n canolbwyntio ar waith Boston Lodge yn enghraifft wych o sut y gall treftadaeth ein helpu i ddeall pwy ydym ni ac o ble rydym yn dod a sut mae’r cymunedau yr ydym yn rhan ohonynt wedi’u llunio gan y gorffennol drwy ddod â hanes yn fyw.”