Mae rhieni babi chwe mis oed gafodd ei lladd mewn gwrthdrawiad yn Llanelli wedi rhoi teyrnged i’w “merch fach berffaith”.

Dywedon nhw fod eu merch yn “rhodd gan Dduw”.

Bu farw Eva Maria Nichifor yn dilyn gwrthdrawiad rhwng BMW 3 cyfres las a Vauxhall Vectra glas ar groesffordd Heol Goffa yn Llanelli tua 9yh nos Wener (8 Hydref).

Mae dynes 23 oed o’r dref wedi ymddangos mewn llys wedi ei chyhuddo o ladd Eva Maria Nichifor.

Mae Lucy Dyer yn wynebu cyhuddiadau o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus a gyrru dan ddylanwad alcohol.

Roedd Miss Dyer yn crynu ac yn crio yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Llanelli, ac fe siaradodd ond i gadarnhau ei manylion personol.

Cafodd ei chadw yn y ddalfa nes y gwrandawiad nesaf yn Llys Y Goron Abertawe ymhen mis ar Dachwedd 12.

“Erchyll”

Mae rhieni Eva Maria, Florin a Carmen, sy’n hannu o Rwmania ond sydd bellach yn byw yn Llanelli, wedi cyhoeddi’r deyrnged isod.

“Rydym wedi ein llorio gan ein colled.

“Bydd Eva Maria, dim ond chwe mis oed, yn cael ei cholli gennym ni i gyd.

“Hi oedd ein gwyrth, ein merch fach berffaith, rhodd gan Dduw.

“Bydd hi bob amser yn ein calonnau.

“Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ar yr adeg erchyll hon.

“Mae wedi golygu cymaint i’r teulu cyfan.

“Hoffem nawr gael amser i alaru a byddem yn gofyn am gael preifatrwydd i wneud hynny.”

Dynes yn y llys wedi gwrthdrawiad a laddodd blentyn

Mae Lucy Dyer, 23 oed o Lanelli, wedi’i chyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus a gyrru dan ddylanwad alcohol