Bydd ymweliadau ag Ysbyty Llwynhelyg yn ailddechrau yfory (dydd Mercher 13 Hydref).

Fodd bynnag, bydd ymweld â wardiau 10 a 12 yn parhau i fod yn gyfyngedig.

Daw hyn yn dilyn cyflwyno cyfyngiadau newydd ar ymwelwyr yn sgil cynnydd mewn achosion Covid-19 yn yr ysbyty a’r gymuned ehangach.

Bydd yn rhaid gwisgo gorchudd wyneb wrth ymweld â’r ysbyty, gyda gorchudd wyneb llawfeddygol yn cael ei ddarparu yn ei le yn y dderbynfa neu’r ward.

Mae’r ysbyty hefyd yn gofyn i ymwelwyr gadw pellter cymdeithasol a golchi eu dwylo mor aml â phosib gan ddefnyddio sebon a dŵr a glanweithydd dwylo.

“Dealltwriaeth”

“Mae canlyniadau sgrinio cleifion yn rhagweithiol ar gyfer Covid-19 ar draws Ysbyty Llwynhelyg wedi ein galluogi i ddiweddaru ein cyfyngiadau ymweld,” meddai Bwrdd Iechyd Hywel Dda mewn datganiad.

“Dim ond mewn amgylchiadau arbennig y caniateir ymweld â ward 10 a 12, megis diwedd oes ac ymweliadau critigol.

“Cysylltwyd yn uniongyrchol â pherthynas agosaf cleifion ar y wardiau hyn.

“Er mwyn sicrhau diogelwch staff a chleifion yr ysbyty, rydym yn parhau i annog unrhyw un sy’n ymweld ag unrhyw un o’n hysbytai ar gyfer apwyntiad neu i weld rhywun annwyl, i gynnal prawf dyfais llif ochrol (LFD) gartref cyn teithio i’r ysbyty.

“Rydym yn diolch i bawb am eich dealltwriaeth ar yr adeg hon wrth i ni weithio i atal y feirws hwn rhag lledaenu.”

Atal ymwelwyr yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd

Bydd modd i rai ymwelwyr fynd yno mewn amgylchiadau arbennig, yn enwedig i weld cleifion diwedd oes neu rai sydd mewn cyflyrau critigol