Mae gwefan Nation.Cymru yn beio “hacwyr” am ymosod ar eu gwefan.

Roedden nhw’n honni bod eu gwefan wedi dioddef “ymgeision hacio” a oedd yn ymddangos fel eu bod nhw “wedi eu targedu,” ac roedd hynny wedi “aflonyddu” ar eu gwaith.

Dywedon nhw eu bod nhw ddim am rannu manylion penodol am yr ymosodiadau rhag ofn iddyn nhw ddylanwadu ar bobol i ailadrodd hynny.

Does dim perygl y bydd manylion tanysgrifwyr yn cael eu hacio, gan bod y rheiny wedi eu storio ar safle arall diogel.

Ymosodiadau

Mewn post ar eu tudalen Twitter ddoe, fe wnaethon nhw honni mai pobol sydd “ddim eisiau cyfryngau Cymreig annibynnol a chenedlaethol” oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau.

Roedden nhw’n galw ar eu dilynwyr i gyfrannu arian er mwyn “atgyfnerthu diogelwch” y wefan, fel bod ymosodiadau o’r fath ddim yn parhau yn y dyfodol.

Dywedodd llefarydd ar ran Nation.Cymru wrth golwg360: “Dros yr wythnos diwethaf mae Nation.Cymru wedi dioddef ymgeision hacio sydd yn ymddangos wedi targedu ac sydd wedi aflonyddu ein gwaith ar y wefan.

“Nid ydym eisiau dweud gormod am natur penodol yr ymgeision rhag ofn ein bod yn annog yr haciwr neu yn annog hacwyr eraill i geisio gwneud rhywbeth tebyg.

“Dim ond y wefan lle rydym yn cyhoeddi newyddion mae nhw yn ceisio hacio – mae’r holl wybodaeth pwysig am danysgrifwyr wedi ei gloi yn ddiogel ar safle trydydd parti wedi ei redeg gan gwmni arall.

“Diolch i’n tanysgrifwyr rydym yn ychwanegu mesurau diogelwch newydd er mwyn cadw ein gwefan yn ddiogel.”

Darllenwch fwy am y stori wreiddiol yn fan hyn:

Gwefan newyddion Nation yn dioddef ymosodiadau seiber

Gwern ab Arwel

Maen nhw’n honni eu bod nhw “wedi eu targedu” gan y rheiny sydd “ddim eisiau cyfryngau Cymreig cenedlaethol ac annibynnol”