Dywed arbenigwr busnes ar Ynys Môn y bydd rhagor o loriau yn teithio’n uniongyrchol o Iwerddon i Ffrainc yn “dorcalonnus” i borthladdoedd Cymru.

Dywedodd Gerallt Llywelyn, uwch swyddog cyfrifol Morlais, Menter Môn, mewn trydar heddiw: “Torcalonnus. Ar ôl 4,000 mlynedd o fasnach barhaus ag Ewrop nawr mae gorllewin Cymru yn cael ei “osgoi”.

Daeth ei ymateb yn dilyn y newyddion y bydd nifer y llwybrau uniongyrchol ar y môr o Iwerddon i Ffrainc yn codi i 44, o gymharu â’r 12 oedd yn bodoli cyn Brexit.

Fe wnaeth Gweinidog Materion Ewropeaidd Iwerddon, Thomas Byrne, agor terminal newydd i Rosslare ym mhorthladd Dunkerque yn Ffrainc ddoe (11 Hydref).

Ers 1 Ionawr eleni, mae 50,000 o loriau a chynwysyddion yn cario nwyddau wedi teithio o Rosslare yno, gan osgoi’r angen i fynd i’r Deyrnas Unedig, meddai newyddion RTÉ.

Mae’r datblygiad nawr yn codi cwestiynau ynglŷn â dyfodol porthladdoedd Cymru – yn cynnwys Caergybi, Abergwaun, Doc Penfro, Aberdaugleddau, Port Talbot, Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd.

Mae arbenigwr mewn Trafnidiaeth a Logisteg ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn disgwyl iddi gymryd tua phedair blynedd i draffig porthladdoedd Cymru ddychwelyd at lefelau cyn Brexit.

Dywedodd yr Athro Andrew Potter ei bod hi’n amlwg bod cynnydd yn nifer y teithiau uniongyrchol rhwng Iwerddon a chyfandir Ewrop wrth i gwmnïau geisio ail-gynllunio eu teithio er mwyn cyd-fynd â Brexit.

Mae pwysigrwydd Dunkerque wedi dod i’r amlwg wedi Brexit, ac yn adlewyrchu’r angen cynyddol am deithiau uniongyrchol o Iwerddon i’r cyfandir.

“Tawelu”

Gan siarad yn anecdotaidd, dywedodd Gerallt Llewelyn wrth golwg360 bod llai o nwyddau i’w gweld yn cael eu cludo ar hyd yr A55 nawr o gymharu â chyn Brexit.

“Yr unig ddata edra i roi ydi un anecdotaidd, dw i’n byw drws nesaf i’r A55 yn Llanfairpwll ac mae’r nifer o loriau [wedi gostwng],” meddai Gerallt Llewelyn.

“Rhwng 10yh a hanner nos, mi oedd yna lot o draffig loris ers talwm, mae hwnnw wedi tawelu.

“Mae hi’n anodd gen i gredu bod gymaint yn mynd drwy’r porthladd ag yr oedd yna cynt.

“Oherwydd y gwaith dw i’n ei wneud, rydyn ni mewn cysylltiad â chwmnïau o Iwerddon, a’r bwriad pendant gan rheiny oedd ffeindio ffyrdd newydd o gario pethau i Ewrop.

“Be dw i’n glywed yn lleol yma ydi bod yna lai o draffig yn mynd drwy’r porthladd o safbwynt cludo nwyddau.

“Mae o’n drist, mae o’n fy nhristau i. Yn symbolaidd, mae o’n fy nhristau i, achos rydyn ni’n cael ein torri allan o’r cylchoedd masnach mwy a mwy.”

“Bygythiad”

Wrth ymateb, dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ynys Môn, y byddai Brexit yn golygu “bygythiad uniongyrchol” i borthladd Caergybi.

“Roedden ni’n gwybod bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu bygythiad uniongyrchol i borthladd Caergybi, a dyma ni’n gweld rhagor o dystiolaeth o realiti’r bygythiad hwnnw,” meddai wrth golwg360.

“Oes, mae angen sicrhau buddsoddiad pellach yn y porthladd i greu mwy o fusnes, ac mi wnaf bopeth allaf i i sicrhau hynny, ond does dim dianc o’r ffaith bod rhwystrau yno rŵan nad oedd yno cynt, ac mae cwmnïau llongau, loriau a Llywodraeth Iwerddon yn amlwg yn chwilio am fwy a mwy o opsiynau amgen er mwyn osgoi’r rhwystrau hynny.”

“Ymateb i Brexit”

Dywedodd prif weithredwr DFDS, sef y cwmni cludiant o Ddenmarc fydd yn gweithredu’r teithiau rhwng Dunkirk a Rosslare, wrth Newyddion RTÉ bod hyn yn “rhywbeth sy’n ymateb i Brexit”.

“Roedd hi’n amlwg, i’n partneriaid Gwyddeleg hefyd, y byddai allforwyr o Iwerddon yn dioddef yn ddifrifol, o bosib yn sgil trafferthion gyda gwaith papur ac oedi,” meddai Torben Carlsen.

“Yn ddiweddar hefyd, [yn dioddef yn sgil] diffyg gyrwyr yr ydych chi’n ei weld yn y Deyrnas Unedig.

“Felly roedd yn alw am gysylltiad uniongyrchol rhwng Iwerddon a’r Undeb Ewropeaidd, yn arbennig Ffrainc, ac fe wnaethon ni ateb i’r angen hwnnw.”

Bwydydd

Dywedodd Torben Carlsen bod y siwrne ar y môr yn addas ar gyfer bwydydd ‘jyst mewn pryd’.

Wrth siarad yn ystod yr agoriad, dywedodd Thomas Byrne, Gweinidog Materion Eworopeaidd Iwerddon, eu bod nhw’n “edrych ymlaen tuag at dwristiaeth haf nesaf hefyd er mwyn cael twristiaid i’r rhanbarth”.

Dywedodd hefyd bod teithio dros dir y Deyrnas Unedig dal yn bwysig oherwydd ei fod yn cymryd llai o amser, ac yn bwysig ar gyfer cludo rhai bwydydd ffres.

Fodd bynnag, mae’r daith o Rosslare i Dunkerque yn cynnig mwy o amser i yrwyr loriau orffwys.

Mewn trydariad, dywedodd llysgenhadaeth Iwerddon ym Mharis bod agoriad y terminal i Iwerddon o Dunkerque yn “symbol mawr o lwyddiant cydweithredu rhwng Ffrainc, Iwerddon a Denmarc a chyswllt strategol i Iwerddon i’r Farchnad Sengl”.

‘Gallai gymryd pedair blynedd i draffig porthladdoedd Cymru ddychwelyd i lefelau cyn Brexit’

Y daith uniongyrchol o Iwerddon i’r cyfandir “yn amlwg yn denu traffig a fyddai wedi dod drwy borthladdoedd Cymru yn draddodiadol”