Mae Mark Drakeford wedi ei gyhuddo o “amddifadu ei gyfrifoldebau fel Prif Weinidog” ac fel arweinydd plaid unoliaethol gan y Ceidwadwyr Cymreig.
Roedden nhw yn ymateb i sylwadau Mark Drakeford a wnaeth mewn papur newydd adain chwith.
Ddywedodd y Prif Weinidog wrth The Morning Star ei bod hi’n “debygol” y byddai ail refferendwm annibyniaeth yr Alban yn digwydd cyn 2025.
Fe nododd y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn pwyso ymlaen gyda chonfensiwn “i wneud yn siŵr ein bod yn meddwl am ba ddewisiadau” fyddai ar gael i Gymru.
“Yn y tymor Seneddol hwn mae’n debygol y bydd ail refferendwm yn yr Alban,” meddai Mark Drakeford.
“Mae breuder y Deyrnas Unedig yn real iawn ac mae ein confensiwn wedi’i gynllunio i sicrhau ein bod yn meddwl am ba ddewisiadau sydd ar gael ar y dyfodol hwnnw.
“Bydd yr aelodaeth a’r cylch gorchwyl yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf a byddant yn cynnwys elfen gref iawn o leisiau dinasyddion yng ngwaith y comisiwn.”
Fe ddywedodd y Gweinidog presennol Cymru dros y Cyfansoddiad, Mick Antoniw, cyn yr etholiad ym mis Mai fod angen confensiwn cyfansoddiadol annibynnol ar Gymru ac “ni allwn fforddio aros”.
Tanseilio
Mae’r Ceidwadwyr yn nodi fod Mark Drakeford yn tanseilio ei gredoau o blaid yr Undeb trwy fod mewn trafodaethau â Phlaid Cymru dros gytundeb cydweithredol.
“Mae obsesiwn cyfansoddiadol y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yn ymarfer hunan-oddefgar trwy roi sylw i genedlaetholdeb ac mae’n tynnu sylw enfawr oddi wrth y mater go iawn sydd wrth law sef gwella o’r pandemig,” meddai Darren Millar, gweinidog cysgodol y Ceidwadwyr dros faterion cyfansoddiadol.
“Nid yw’r DU wedi torri, ond mae’r Prif Weinidog yn dechrau swnio fel record wedi torri.
“Y gwir amdani yw bod y Prif Weinidog yn ceisio cael ei afael ar fwy o rym oherwydd ei anghytundebau gwleidyddol â Llywodraeth Geidwadol y DU.
Honodd Darren Millar fod Mr Drakeford yn “tanseilio adeiladwaith y DU yn rheolaidd drwy ei honiadau niferus yn Llywodraeth Cymru.”
“Mae Cymru’n profi’r un o’r cyfnodau gwaethaf erioed, gyda rhestr aros hwyaf erioed y Gwasanaeth Iechyd a’r amseroedd aros am ambiwlansys arafaf. Mae teuluoedd dioddefwyr Covid a’r cyfnod clo am weld cael ymchwiliad annibynnol hefyd.
“Dylai bod mynd i’r afael â’r materion hyn fod yn flaenoriaeth i’r Prif Weinidog, nid diwygio cyfansoddiadol.”
Ond mae sylwadau Mark Drakeford yn groes i’r Blaid Lafur yn yr Alban, sy’n dweud na fydd refferendwm annibyniaeth hyd nes ar ôl etholiadau datganoledig.
Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Boris Johnson wedi dweud y bydd yn gwrthod cymeradwyo refferendwm annibyniaeth arall.