Mae diffyg tai bach cyhoeddus yn Yr Wyddgrug yn gorfodi’r henoed i beidio mynd i’r dref.
Daw’r canfyddiad yn dilyn dymchwel bloc o doiledau ym maes parcio’r Stryd Newydd.
Fe benderfynodd Cyngor Sir y Fflint chwalu’r cyfleusterau i greu mannau parcio ychwanegol ar ôl i swyddogion ddweud eu bod wedi dod yn fan poblogaidd ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae tai bach eraill ar gael yng ngorsaf bysiau’r dref sydd newyddei gwblhau ac ar agor i’r cyhoedd ddefnyddio.
Ond yn ôl y Cynghorydd Geoff Collett, mae’r sefyllfa wedi arwain at lai o drigolion yn dod i siopa yn y dref.
“Mae trigolion wedi dweud wrthyf na allant fynd i siopa yn yr Wyddgrug mwyach oherwydd bod cerdded o ble maent yn parcio eu ceir i’r toiledau presennol yn ormod iddynt, yn enwedig os oes ganddynt broblemau fel arthritis.”
Ymateb adweithiol
Roedd y cyngor sir wedi cynnig cyfle i Gyngor Tref yr Wyddgrug ymgymryd â’r gwaith o redeg toiledau’r Stryd Newydd, ond fe’u dymchwelwyd ar ôl i gynghorwyr y dre ddod i’r casgliad fod cost eu hadfer yn gostus.
Yn ôl Y Cynghorydd Chris Bithell, aelod cabinet y sir dros Gynllunio a Diogelu’r Cyhoedd, mae dymchwel y tai bach wedi ennyn ymateb adweithiol.
“Gwnaethom arolwg ar hyn rai blynyddoedd yn ôl ac mae tua 50-60,000 o bobl yn edrych i’r Wyddgrug am wasanaethau neu ar gyfer siopa.”
“Mae galw mawr am hyn oherwydd cyn gynted ag y bydd pobl yn cyrraedd y dref, yn enwedig pobl oedrannus a phobl â phlant, y peth cyntaf y mae angen iddynt ei wneud yw mynd i’r tŷ bach.”
Diffyg Cyllid
Dywedodd Katie Wilby, prif Swyddog yr awdurdod ar gyfer Strydoedd a Chludiant, fod diffyg cyllid ar gael i gynnal toiledau cyhoeddus.
“Rydym yn hapus i weithio gyda darparwyr eraill ac rydym yn hapus i ddarparu cymorth, ond heb y cyllid digonol i ddatblygu’r cyfleusterau, mae’n anodd iawn i ni wneud hynny.” meddai.
Er gwaethaf y pryderon, cytunodd aelodau’r pwyllgor i gefnogi’r adolygiad diweddaraf o’r strategaeth toiledau lleol drwy bleidlais fwyafrifol.