Bydd cyfrifoldeb dros y cwrs Cymraeg poblogaidd ar Duolingo yn trosglwyddo i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’r cwrs wedi denu bron i 1.9 miliwn o ddysgwyr ledled y byd ers iddo gael ei gyflwyno ar Duolingo.

O fis Hydref 2021, bydd Adran Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Genedlaethol yn cymryd yr awenau oddi wrth y criw o wirfoddolwyr sydd, dan arweiniad y tiwtor Cymraeg, Richard Morse, wedi cynnal y cwrs ers iddo gael ei lansio ar Duolingo ym mis Ionawr 2016.

Mae’r datblygiad – y cyntaf o’i fath – yn rhan o fenter ehangach gan Duolingo i symud o fodel sy’n seiliedig ar wirfoddolwyr i gynnal rhai cyrsiau yn fewnol a datblygu eraill mewn partneriaeth â chyrff allanol megis y Ganolfan Genedlaethol.

Yn ôl Adroddiad Iaith Duolingo 2020, Cymraeg yw’r iaith sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain, 44% yn uwch nag yn 2019 – o flaen Hindi, Siapanaeg a Ffrangeg.

Ar hyn o bryd mae 476,000 o ddysgwyr gweithredol y Gymraeg, gyda dros 58% o’r dysgwyr diweddar yn y Deyrnas Unedig, 15% yn yr Unol Daleithiau, a 2% yn Awstralia a Chanada.

Mae’r cwrs yn defnyddio profiadau gemau cyfrifiadurol i helpu dysgwyr i ymarfer a chryfhau eu sgiliau iaith.

“Llwyddiant ysgubol”

“Mae’r Gymraeg wedi bod yn llwyddiant ysgubol ar Duolingo, diolch i waith ardderchog Richard a’r tîm,” meddai Colin Watkins, rheolwr y Deyrnas Unedig Duolingo.

“Gwirfoddolwyr, gan gynnwys ein cyd-sylfaenydd, Luis von Ahn, ysgrifennodd gyrsiau cynnar Duolingo, ond wrth i’r ap ddod yn fwy poblogaidd, ynghyd â’r nifer o ieithoedd sy’n cael eu cynnig, bellach dros 100 a mwy i ddod, roedden ni eisiau ffurfioli’r ffordd mae’r cyrsiau yn cael eu creu.

“Mae’n bwysig i ni ein bod ni’n cydweithio gyda’r partneriaid cywir ac mae’r bartneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn berffaith.

“Rydyn ni’n hyderus y bydd eu tîm yn gallu parhau gyda’r gwaith ardderchog a ddechreuwyd gan Richard a’r tîm.”

“Adnodd dysgu gwych”

Ychwanegodd Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol: sydd wedi arwain y trafodaethau gyda Duolingo: “Mae cwrs Cymraeg Duolingo yn adnodd dysgu gwych ac mae ein dysgwyr wrth eu boddau yn ei ddefnyddio i ymarfer a chryfhau eu Cymraeg.

“Bydd y bartneriaeth newydd yma yn ein galluogi ni i unioni cwrs Duolingo yn agosach gyda’n cyrsiau, sydd ar gael ar bum lefel dysgu gwahanol.

“Byddwn hefyd yn gallu hyrwyddo cyfleoedd dysgu i gymuned Gymraeg Duolingo, gan gynnwys cyrsiau rhithiol, modiwlau hunan-astudio ar-lein a digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

“Hoffai’r Ganolfan Genedlaethol dalu teyrnged i’r gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio ar gwrs Cymraeg Duolingo – dan ni’n edrych ymlaen at barhau â’u gwaith da ac at groesawu a chefnogi hyd yn oed yn fwy o ddysgwyr Cymraeg.”