Fe fydd yr Undeb Ewropeaidd yn amlinellu cyfres o gynigion heddiw (13 Hydref) er mwyn ceisio datrys y problemau sydd wedi codi ynglŷn a Protocol Gogledd Iwerddon yn sgil Brexit.
Mae Llywodraeth y DU wedi dadlau bod y trefniadau wedi achosi gormod o rwystrau wrth gludo nwyddau o wledydd Prydain i Ogledd Iwerddon, gan achosi trafferthion i nifer o fusnesau yng Ngogledd Iwerddon.
Mae is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Maros Sefcovic, wedi rhoi addewid y bydd y mesurau yn “bellgyrhaeddol” ac yn mynd i’r afael a materion yn ymwneud a chludo cynnyrch bwyd a meddyginiaethau o wledydd Prydain i Ogledd Iwerddon.
Yn ôl adroddiadau yn The Telegraph fe fydd yr UE yn cynnig cael gwared a 50% o’r gwiriadau ar gynnyrch o wledydd Prydain sy’n cael ei gludo i Ogledd Iwerddon a mwy na hanner y gwiriadau ar gig a phlanhigion i Ogledd Iwerddon.
Mae Maros Sefcovic hefyd wedi addo rhoi mwy o lais i wleidyddion a’r gymdeithas yng Ngogledd Iwerddon ynglŷn â sut mae’r trefniadau masnach dadleuol yn cael eu gweithredu.
Serch hyn mae’n debyg na fydd y mesurau yn bodloni Llywodraeth y DU sydd eisiau gweld newidiadau i rôl y Llys Cyfiawnder Ewropeaidd (ECJ).
O dan y telerau gafodd eu cytuno rhwng y DU a’r UE yn 2019, fe fyddai’r Llys Cyfiawnder Ewropeaidd yn cael y gair olaf am unrhyw anghydfod masnach rhwng y ddau ynglŷn a’r modd roedd y protocol yn cael ei weithredu. Mae’r DU nawr eisiau newid y drefn honno ac yn galw am broses annibynnol i ddatrys yr anghydfod.
Ond mae Maros Sefcovic wedi mynnu nad yw’r UE yn fodlon newid y drefn.
Mae’n debyg y bydd cynigion yr UE, a rhestr hir o ddiwygiadau gafodd eu hamlinellu gan y Llywodraeth ym mis Gorffennaf, yn sail i gyfres o drafodaethau rhwng Brwsel a Llundain yn yr wythnosau i ddod.