Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu cynlluniau i roi codiad cyflog i staff gofal cymdeithasol.
Galwodd Peredur Owen Griffiths, sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru, ar y Prif Weinidog Mark Drakeford i gyflwyno cynlluniau ar gyfer cyflog tecach i’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Mae’r Llywodraeth wedi dweud y byddan nhw’n sicrhau bod gweithwyr gofal yng Nghymru yn derbyn “cyflog tecach erbyn 2024″.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths wrth y Llywodraeth ei fod am i’r codiad cyflog gael ei gyflwyno’n gynt yn sgil y cynnydd mewn costau byw.
Yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd, dywedodd Peredur Owen Griffiths ei fod ef a’i gyd-Aelod o’r Senedd, Delyth Jewell, wedi cyfarfod yn ddiweddar ag Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Phillipa Marsden, a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Shane Cook, mewn cysylltiad â’r gostyngiad yn y ddarpariaeth canolfannau dydd i oedolion anabl.
“Cydraddoldeb”
Dywedodd Peredur Owen Griffiths: “Yn ystod y cyfarfod hwnnw, pwysleisiwyd ganddynt fod recriwtio staff gofal cymdeithasol yn anodd ac y bydd yn parhau i fod felly nes bod cydraddoldeb rhwng eu cyflogau a staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Allwch chi gyflymu eich cynlluniau ar gyfer tâl tecach i weithwyr gofal cymdeithasol yng ngoleuni cyllidebau cartrefi’n cael eu gwasgu gyda phrisiau tanwydd gaeaf yn cynyddu?”
Wrth ymateb, eglurodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl am gyngor y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol cyn iddyn nhw “gyflwyno cyflog byw go iawn” i staff yn y sector.