Mae cyn-blismon wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus ar ôl iddo gael “perthynas amhriodol” gyda dwy ddynes tra roedd yn gwnstabl gyda Heddlu Gwent .
Roedd Paul Chadwick, 51, wedi cyfaddef i’r troseddau yn ystod gwrandawiad byr yn Llys y Goron Casnewydd.
Fe fu’n gwnstabl gyda Heddlu Gwent nes iddo ymddeol ym mis Mehefin. Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth nes y bydd yn cael ei ddedfrydu ar 13 Rhagfyr.
Roedd Paul Chadwick wedi dechrau perthynas amhriodol yn 2020 gyda dwy ddynes roedd wedi cwrdd yn ystod ei waith, un rhwng mis Ionawr ac Ebrill a’r ail ym mis Mai’r llynedd.
Cafodd ei gyhuddo yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Roedd y barnwr Jeremy Jenkins wedi gohirio’r ddedfryd nes bod adroddiadau wedi’u cwblhau.