Mae’r Ceidwadwyr Cymraeg wedi cyhuddo’r Prif Weinidog o wadu bod yna argyfwng ym maes meddygon teulu wrth i bobl methu â chael apwyntiad gyda’u doctor.

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog fe ofynnodd Paul Davies, arweinydd dros dro y Ceidwadwyr Cymreig, am yr hyn yr oedd y Llywodraeth yn ei wneud gan ystyried y gostyngiad yn nifer y meddygon teulu er bod y boblogaeth yn parhau i dyfu.

Yn ystod y ddadl fe gyfeiriodd yr Aelod dros Breseli Penfro at broblemau cleifion wrth drio cael apwyntiad gyda’u meddygon teulu a bod y pandemig wedi amlygu diffyg doctoriaid.

“Roedd lot o gleifion yn ei chael hi’n anodd cael apwyntiad cyn y pandemig a gorfod aros sawl wythnos,” meddai.

“Ategwyd hyn gan Dr Oelmann, meddyg teulu yng Nghwmbrân a ddywedodd fod ‘yna backlog drwy’r system ac nid meddygon teulu yn unig… Mae backlog mewn gofal sylfaenol, fel y gwasanaeth ambiwlans, gofal cymdeithasol, mae popeth wedi’i gysylltu.

“Ni ellir edrych ar hyn fel problemau ar eu pen eu hunain, mae’r holl beth wedi’i gysylltu sy’n anodd ar staff.”

 

Fe ddywedodd y Ceidwadwyr Cymreig ar eu cyfrif Twitter: ‘”Amlygodd Covid y ffaith nad oes digon o feddygon a staff mewn gofal sylfaenol yng Nghymru.

“Am ba hyd ydych chi wedi gorfod aros ar y ffôn i drefnu apwyntiad meddyg teulu, weithiau i gael gwybod nad oes dim ar ôl?

“Roedd y problemau hyn yn bodoli cyn Covid felly pryd fydd Llafur yn eu datrys?”

Diystyry

Wrth siarad wedi’r sesiwn ddod i ben fe ychwanegodd Paul Davies bod y Prif Weinidog yn “obsesiynu dros faterion cyfansoddiadol” yn hytrach na delio gyda phroblemau’r Gwasanaeth Iechyd o ganlyniad i’r pandemig.

“Mae yna broblemau wrth gael mynediad at ofal fel meddygon teulu sy’n achosi trafferthion ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

“Felly, mae’n siomedig iawn clywed y Prif Weinidog yn diystyru pryderon fel y mynegwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu, Cymdeithas Feddygol Prydain, a meddyg ar y rheng flaen, yn ogystal a’r ffaith y gellir olrhain y problemau hynny yn ôl i brinder meddygon teulu cyn Covid.”

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw wedi buddsoddi’n sylweddol mewn hyfforddi meddygon teulu a gwella technoleg apwyntiadau.

‘Darlun Cymysg’

Fe ddywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford fod y “darlun yn gymysg” ac “nid meddygon teulu ar eu pennau eu hunain yw’r ateb cyfan i ofal meddygol.”

Fe ychwanegodd fod y Llywodraeth wedi buddsoddi mewn “creu mwy o weithwyr proffesiynol, gan newid natur gofal sylfaenol, gan sicrhau ei bod yn cyd-fynd â’r ffordd y mae pobl sy’n gweithio ynddi yn gweld eu dyfodol fel gweithwyr proffesiynol yma yng Nghymru.”

Mae’r Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru eisoes wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y maes er mwyn denu rhagor o feddygon teulu, yn ogystal â chyfres o newidiadau tymor byr i wella’r sefyllfa bresennol.

Mae’r rhain yn cynnwys darparu system bwcio apwyntiadau ar-lein yn ogystal ag arfogi cleifion i wneud y penderfyniadau gorau ynglŷn â pha weithiwr neu wasanaeth iechyd sydd fwyaf addas iddyn nhw;